Memorandwm ar yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2016/17

 

Y Pwyllgor Menter a Busnes – 14 Ionawr 2016


1.0         Cyflwyniad

 

Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth am gynigion cyllideb yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth fel y'u nodir yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17 a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr.  Nid yw'n cynnwys y manylion am y gyllideb sy'n ymwneud â diwylliant a chwaraeon. Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ymdrin â'r meysydd hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 21 Ionawr.

 

2.0         Crynodeb o'r Newidiadau Cyllidebol


Yn gyffredinol, mae'r dyraniadau cyllidebol ar gyfer 2016/17 i gefnogi'r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (heb gynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol) wedi cynyddu £60.538m o gymharu â'r Gyllideb sylfaenol ddiwygiedig ar gyfer 2015/16.  Mae'r symudiad hwn yn cynnwys gostyngiad o £18.946m mewn refeniw a chynnydd o £79.484m yn y dyraniad cyfalaf, fel y dangosir yn Nhabl 1 isod. 

 

TABL 1: TROSOLWG O'R GYLLIDEB

 

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000

Newidiadau
2016/17


     £’000

Cyllideb

 Ddrafft

2016/17
£’000

Refeniw

 

 

 

Economi a Gwyddoniaeth

87,425

(18,794)

68,631

Trafnidiaeth

305,441

(152)

305,289

Cyfanswm

392,866

(18,946)

373,920

 

 

 

 

Cyfalaf

 

 

 

Economi a Gwyddoniaeth

67,647

32,000

99,647

Trafnidiaeth

194,349

47,484

241,833

Cyfanswm

261,996

79,484

341,480

 

 

 

 

Anariannol

110,000

0

110,000

Cyfanswm

110,000

0

110,000

Gwariant a Reolir yn Flynyddol

34,954

0

34,954

Cyfanswm y Gwariant a Reolir

799,816

60,538

860,354

           

Cysonir y newidiadau o Gyllideb Atodol 2015/16 a Chyllideb Sylfaenol 2015/16 yn Atodiad A.

 

2.1  Refeniw

 

Drwy'r Gyllideb Ddrafft hon mae Llywodraeth Cymru wedi parhau â'r ymrwymiad i Fuddion Cyffredinol. Ar gyfer yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth mae hyn yn golygu bod y Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach wedi'i ddiogelu ar 1 y cant uwchlaw'r newidiadau i'r Terfyn Grant Adrannol cyffredinol ar gyfer Cymru. Mae'r swm o £9.750m a ddyrannwyd i'r Cynllun Teithio Rhatach ar Fysiau i Bobl Ifanc hefyd wedi'i ddiogelu, yn unol â'r pecyn dwy flynedd o fesurau y cytunwyd arno â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghytundeb Cyllidedol 2014.


O ganlyniad, mae arbedion refeniw wedi'u nodi mewn meysydd nas diogelir o Brif Grŵp Gwariant yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Esbonnir y gostyngiad o £18.946m mewn refeniw fel a ganlyn:

 

a.    Dyraniadau ychwanegol â blaenoriaeth - £5.848m

·         Tocynnau Teithio Rhatach – £1.098m, cynnydd o 1% uwchlaw'r newidiadau i Derfyn Grant Adrannol Cymru fel ymrwymiad i Fuddion Cyffredinol;  

·         Y Cynllun Teithio Rhatach ar Fysiau i Bobl Ifanc - £4.750m (Cytundeb Cyllidebol Blwyddyn 2).

 

b.    Newidiadau Cyllidebol ac Ailflaenoriaethu – (£24.794m)

·         2016/17 gostyngiad o £23.794m a reolir yn bennaf drwy ailbroffilio a blaenoriaethu rhaglenni, gan ddefnyddio ein cyllideb graidd er mwyn manteisio i'r eithaf ar Gyllid Ewropeaidd a refeniw a gynhyrchir drwy reoli'r portffolio eiddo; 

·         Ad-dalu Cyllid Buddsoddi i Arbed gwerth £1m ar gyfer prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.

 

Wrth lywio ein cynlluniau gwariant rydym wedi ceisio lleihau effaith cwtogi ar wasanaethau cyhoeddus a thwf a swyddi cymaint â phosibl.  Trafnidiaeth sy'n ffurfio'n rhan fwyaf o gyllideb yr Adran ac, fel mewn blynyddoedd blaenorol, prin yw'r cyfle i wneud arbedion yn y maes hwn, heb amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac iechyd a diogelwch defnyddwyr ffyrdd.  Fodd bynnag, rydym yn parhau i weithio gyda'n darparwyr gwasanaethau er mwyn cyflawni mwy am lai, fel y dangosir, er enghraifft, gan ein gwaith gyda'r Asiantau Cefnffyrdd[1].  Wrth gynnal cydnerthedd a defnyddioldeb y rhwydwaith ffyrdd, mae ein hymrwymiad i fuddsoddiad 'gwario i arbed' hirdymor wedi arwain at ryddhau refeniw o blaid gwariant cyfalaf.

Er bod y rhan fwyaf o'r arbedion refeniw wedi'u cyflawni o fewn cyllidebau'r Economi a Gwyddoniaeth, rydym wedi ceisio nodi mwy o arbedion effeithlonrwydd gweithredol ym mhob un o'n gweithgareddau, a manteisio i'r eithaf ar Gyllid Ewropeaidd ac incwm arall er mwyn cynnal ein lefel o gymorth uniongyrchol i fusnesau.  Wrth wneud hyn, rydym wedi lleddfu effaith y gostyngiadau er mwyn parhau â'n blaenoriaeth ar gyfer twf a swyddi. Mae Cyllid Cymru yn parhau i fod yn gyfrwng pwysig i BBaChau gael gafael ar gyllid drwy gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd benthyca. 

 

2.2   Cyfalaf

 

Mae'r Gyllideb Ddrafft hon yn cynnwys £54.484m o gyllid cyfalaf ychwanegol a £25m o gyllid trafodion ariannol fel y nodir yn Nhabl 2 isod. 

 

Rhagwelir y dyrennir symiau pellach o arian yn 2016/17 ar gyfer prosiectau strategol yn unol â Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

Mae cynnydd o £79.484m yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer meysydd â blaenoriaeth fel y nodir yn nhabl 2 isod:

 

TABL 2: Dyraniadau Cyfalaf 2016/17

 

Cam gweithredu

Cyfalaf Traddodiadol

£’000

Trafodion Ariannol

£’000

Prosiect

Sectorau

2,700

 

Gwaith ar Seilwaith Priffordd Porth y Gogledd

1,300

 

Ffordd Gyswllt Llangefni, Cyfnod 2

3,000

 

Prosiectau strategol sy'n helpu i gyflawni ardaloedd menter

 

5,000

Cronfa Olynol JEREMIE

 

3,000

Cronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru

 

10,000

Cronfa Twf Busnesau i BBaChau

 

7,000

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf

Cynlluniau Ffyrdd a Rheilffyrdd

6,000

 

Pont Dyfi ar ffordd yr A487

21,434

 

Buddsoddiad cyfalaf yn seilwaith ffyrdd

Gweithrediadau Traffordd a Chefnffyrdd

20,000

 

Buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y rhwydwaith

50

 

Arwyddion Theatr Hafren – Ffordd Osgoi'r Drenewydd

Cyfanswm Cyffredinol

54,484

25,000

 

 

Mae'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer yr Economi a Gwyddoniaeth yn helpu i sicrhau parhad cronfeydd o fewn Cyllid Cymru a chreu cronfa newydd a fydd yn darparu cymorth ad-daladwy i fusnesau.  Bydd y buddsoddiadau pwysig hyn yn sicrhau bod cyllid hyblyg a chystadleuol ar gael yn y farchnad.

Rhoddir cyfalaf ychwanegol hefyd i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a fydd yn helpu i gynyddu mewnfuddsoddiad drwy fynediad i farchnadoedd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau. Dyma'r £7m sy'n weddill o'r pecyn o £10m a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer datblygu llwybrau Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Ceir hefyd ddyraniadau penodol a fydd yn helpu i sicrhau mwy o fuddsoddiad a chreu swyddi mewn Ardaloedd Menter.

 

Mae'r cynnydd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer Trafnidiaeth yn ariannu'r gwaith o gynnal a chadw, adeiladu a gwella ffyrdd fel rhan o'r broses o gyflawni Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015.  

 

Bydd fforddiadwyedd rhaglenni cyfalaf yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y dyfodol yn parhau i fod yn fater allweddol yng nghyd-destun blaenoriaethau croes. Byddwn yn parhau i fabwysiadu dull gwariant ataliol, gan werthuso manteision a chanlyniadau hirdymor ein buddsoddiadau strategol er mwyn sicrhau cymaint o fanteision economaidd â phosibl a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Mae cyllid arloesol a chyfleoedd eraill i gynyddu ein hadnoddau ariannol yn
ffactor cynyddol bwysig o ran ein gallu i gyflawni canlyniadau. Mae gan yr Adran hanes da o sicrhau ffynonellau cyllido eraill megis y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth y DU a'r sector preifat a byddwn yn parhau i geisio ffyrdd o ddenu cyllid ychwanegol. 

 

Mae tablau'r Llinell Wariant yn y Gyllideb a atodir yn Atodiad C yn rhoi dadansoddiad llawn o gyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran.

Mae Prif Grŵp Gwariant yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn cynnwys dyraniadau cyfalaf ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol, sy'n darparu sicrwydd rhag costau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Adran, megis lleihad yng ngwerth y portffolio eiddo, cydfentrau, buddsoddiadau a'r rhwydwaith ffyrdd.

 

3.0      ASESIAD EFFAITH INTEGREDIG STRATEGOL

 

Nodir effeithiau ein penderfyniadau cyllidebol allweddol yn Atodiad B.

 

4.0      ECONOMI A GWYDDONIAETH

 

4.1      Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

 

Mae ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2016/17 yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol sy'n cwmpasu'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu.  Rydym hefyd wedi cysoni ein gweithgareddau â saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Gweler Atodiad D.

 

Er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig ag amseriad hwyr Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant, rydym wedi defnyddio'r broses o gynllunio ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2016-17 fel cyfle i edrych i'r dyfodol er mwyn targedu buddsoddiad mewn canlyniadau cynaliadwy a mabwysiadu'r pum ffordd allweddol o weithio a nodwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

 

Cyhoeddwyd y diweddariad blynyddol o gyflawniadau a chanlyniadau'r Rhaglen Lywodraethu ym mis Mehefin 2015 ac fe'i ceir ar wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/about/programmeforgov/?lang=cy

 

Gellir gweld y Datganiad Blynyddol ar Gymorth i Fusnesau a'r Economi yma: http://gov.wales/topics/businessandeconomy/how-we-support-businesses/annual-statement-support-to-business-15/?lang=cy

 

4.2      Polisïau Allweddol

 

Darparwyd gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb i'r meysydd penodol a nodwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:

 

a)    Cynllun Allwedd Band Eang Cymru

 

Nod y cynllun grant presennol yw helpu mangreoedd preswyl a busnes cymwys yng Nghymru i brynu ateb band eang â chyflymder lawrlwytho o 2Mbps o leiaf. Sefydlwyd y cynllun er mwyn helpu i ddileu ‘mannau gwan’ ar gyfer band eang yng Nghymru a chefnogi'r mangreoedd hynny na fyddant yn cael mynediad i wasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf drwy brosiect Cyflymu Cymru na'r broses fasnachol o gyflwyno gwasanaethau band eang gan y farchnad. Ers mis Gorffennaf 2010, mae'r cynllun llwyddiannus hwn wedi rhoi 6,279 o grantiau. Caiff costau gwirioneddol gosod band eang a nifer y preswylwyr a busnesau sy'n cael grantiau eu monitro ac maent yn destun gweithdrefnau gwirio cadarn. 

 

At hynny, mae Cynllun Gwibgyswllt yn rhoi cymorth i BBaChau yn yr Ardaloedd Menter a'r Ardaloedd Twf Lleol y mae angen cysylltiad band eang gwibgyswllt arnynt.  Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer grant o hyd at £10,000.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu a diweddaru'r cynlluniau. Mae'r cyllid cyfalaf ar gyfer seilwaith TGCh, sef £16.304m, ar gael ar gyfer cynlluniau cysylltedd â blaenoriaeth.

 

b)   Cyflymu Cymru

 

Erbyn diwedd 2017, bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau bod y rhan fwyaf o fusnesau a fangreoedd preswyl yn gallu cael band eang â chyflymderau lawrlwytho o 30 Mbps o leiaf – mae hyn yn rhagori ar darged yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod gan bawb gysylltiad band eang Cyflym Iawn erbyn 2020, sy'n golygu mai Cymru fydd un o'r gwledydd sydd ar flaen y gad yn y byd technoleg band eang. Mae'r estyniad yn cynnwys mangreoedd ychwanegol a oedd wedi'u nodi yn yr ardal gyflwyno fasnachol yn yr Adolygiad o'r Farchnad Agored a gynhaliwyd yn 2014.  Mae cyllid cyfalaf gwerth £16.304m, sy'n denu arian Ewropeaidd ychwaengol, wedi'i ddyrannu er mwyn cyflawni'r amrywiaeth o gynlluniau cysylltedd o fewn seilwaith TGCh.

 

Mae trefniadau llywodraethu cadarn ar waith ar gyfer monitro a gwerthuso prosesau cyflawni. Yn ystod oes y contract mae proses profi a gwirio wedi'i chynnal gan gontractwyr trydydd parti er mwyn sicrhau mai dim ond y mangreoedd hynny sydd wedi cael y cyflymderau cyflym iawn gofynnol sy'n cael eu cynnwys mewn unrhyw geisiadau a wneir am daliad gan BT.  Mae'r broses hefyd yn rhoi sicrwydd bod y seilwaith sylfaenol sy'n ofynnol yn cyflawni amcanion y prosiect.  Disgwylir i'r costau ar gyfer hyn yn 2016/17 gyd-fynd â'r costau sy'n cael eu codi ar hyn o bryd ar gyfer 2015/16, sef £461k. 

 

Mae archwilwyr allanol wedi'u penodi i archwilio'r gwariant y mae BT yn ei neilltuo ar gyfer y prosiect.  Mae'r ddwy broses hyn yn sicrhau mai dim ond am gostau sy'n gysylltiedig â Phrosiect Cyflymu Cymru y mae BT yn gwneud cais. Yn seiliedig ar gostau cyfredol yr eir iddynt am archwiliadau a gynhelir, rhagwelir y gallai hyn gostio tua £250k yn 2016/17.

 

c)    Dinas-Ranbarthau

 

Mae Byrddau Dinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wedi gwneud cynnydd da, gan sicrhau eu bod yn gweithio tuag at ddiben cyffredin sy'n seiliedig ar uchelgeisiau a rennir ar gyfer twf yn y rhanbarthau.

 

Mae'r Byrddau wedi cyfarfod yn rheolaidd, gan gynnal cyfarfodydd ledled eu rhanbarthau a thrafodaethau ag amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr er mwyn gwerthuso cynigion.  Maent yn parhau i weithio ar hyrwyddo prosiectau mawr lle mae cysoni a chydweithredu rhwng rhanbarthau yn sicrhau gwerth ychwanegol, gan gynnwys cyfrannu at ddatblygu trafodaethau ynghylch y Fargen Ddinesig. Caiff prosiectau cydweithredol unigol eu hystyried yn unol â blaenoriaethau cyllido adrannau.

 

Cyhoeddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y ddau ddinas-ranbarth ar 11 Rhagfyr 2015 ac mae ar gael yn: http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/swanseabay/?lang=cy 

 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/cardiffcapital/?lang=cy

 

ch)         Ardaloedd Menter

 

Mae Byrddau'r Ardaloedd Menter, sy'n cynnwys cryn nifer o gynrychiolwyr o'r sector preifat, i bob pwrpas wedi blaenoriaethu'r buddsoddiad mewn eiddo a seilwaith er mwyn helpu busnesau i ffynnu yn y dyfodol. Ategir cynigion cyfalaf gan astudiaethau dichonolrwydd / achosion busnes ac mae cyfleoedd i ddenu cyllid ychwanegol bod amser yn rhan o'r gwerthusiad.

 

Yn 2016/17 cafwyd dyraniadau cyfalaf ychwanegol yn unol â Chynllun Seilwaith Cymru er mwyn helpu i greu swyddi cynaliadwy fel a ganlyn:

 

                  i.        Priffordd Porth y Gogledd – £2.7m (2015/16 £1.2m)

 

Bydd y buddsoddiad yn ariannu rhwydwaith priffyrdd prifwythiennol ynghyd â gwaith amddiffyn rhag llifogydd, gan agor y datblygiad mwyaf a arweinir gan y sector preifat yng Ngogledd Cymru, yn enwedig y sector gweithgynhyrchu uwch a'r sector technoleg. Gallai'r cyfleusterau cyflogaeth ddarparu ar gyfer hyd at 5000 o swyddi.

 

                 ii.        Ffordd Gyswllt Llangefni – £1.3m  (2015/16 £1.5m)

 

Bydd adeiladu'r ffordd gyswllt yn helpu i sicrhau mwy o fuddsoddiad a chreu swyddi drwy gynyddu capasiti ffyrdd, cysylltu Coleg Menai a Pharc Busnes Bryn Cefni â ffyrdd yr A5114 a'r A55 a gwella'r modd y caiff traffig ei reoli yng nghanol y dref.

 

                iii.        Prosiectau Strategol - £3m

 

Mae'r arian yn helpu i ymateb i gyfleoedd buddsoddi.

 

Cyhoeddir adroddiadau ar berfformiad ac allbynnau (DPAau) Ardaloedd Menter ddwywaith y flwyddyn. Mae'r adroddiad cyntaf yn 2015/16 ar gael:

 

http://gov.wales/docs/det/publications/151203-ezw-kpi-mid-en.pdf

 

d)   Ardaloedd Twf Lleol

 

Yn 2016/17 mae cyllideb ymgysylltu rhanbarthol, sef £0.263m, yn ariannu strategaeth a mentrau ardaloedd twf lleol a nodir isod. Mae adroddiadau gan y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ym Mhowys a Dyffryn Teifi wedi cyflwyno argymhellion eang eu cwmpas sy'n berthnasol i nifer o bortffolios Gweinidogol.  Mae nifer o gamau gweithredu wedi'u datblygu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a'r sector preifat.

 

i.       Mentrau Ardal Twf Lleol Powys

 

·      Mae prosiect EFFAITH Dyffryn Teifi (model Sirolli) yn cefnogi hwylusydd cymunedol i hyrwyddo diwylliant mentro ac annog hunangyflogaeth fel llwybr gyrfaol.

 

·         Yn Llandrindod mae grŵp a arweinir gan fusnesau wedi datblygu cynllun gweithredu i ystyried hyfywedd economaidd y dref yn y dyfodol.  Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ariannu Hyrwyddwr Tref er mwyn datblygu blaenoriaethau allweddol.

 

Mae cyflawni ffordd osgoi'r Drenewydd yn rhan annatod o'r datblygiad. Mae £50,000 o gyfalaf ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer arwyddion Theatr Hafren.

 

ii.    Mentrau Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi

 

·         Codi ymwybyddiaeth yn lleol a mabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ddatblygu busnesau a phobl.

 

·         Gweithredu prosiect peilot sy'n ymwneud â'r Gymraeg gan gysylltu i ddechrau â phedwar gweithdy yn Aberteifi, Llandysul, Castellnewydd Emlyn a Llanbedr Pont Steffan er mwyn nodi sut y gall y defnydd o'r Gymraeg fod o fudd i'r economi leol.

 

·         Gwerthuso cysylltedd band eang er mwyn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer busnesau digidol, sy'n arbennig o bwysig ar gyfer entrepreneuriaid sy'n gweithio gyda'r Gymraeg.

 

dd)        Ardaloedd Gwella Busnes (AGBau)

 

Ym mis Ionawr 2014 cyhoeddwyd cyllid gwerth £203,000 i ddatblygu cynigion naw AGB yng  Nghymru. Menter ar y cyd â'r Is-adran Cartrefi a Lleoedd ydoedd. Caiff AGBau eu datblygu a'u rheoli a thelir amdanynt gan y sector masnachol drwy ardoll AGB mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes leol. Felly, nid oes unrhyw ddyraniadau ychwanegol ar gyfer 2016/17.

 

Yr Ardaloedd Gwella Busnes oedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caernarfon, Bangor, Llanelli, Pontypridd, Castell-nedd, Aberystwyth, y Fenni, Ystadau Diwydiannol Pant a Merthyr Tudful a Bae Colwyn. Er bod y rhaglen yn cwmpasu naw ardal i ddechrau, rhannwyd AGB Caernarfon a Bangor yn ddwy ardal yn ddiweddarach.

 

Cynhaliwyd pleidleisiau yn Llanelli, Bae Colwyn, Caernarfon, Bangor a Chastell-nedd eleni ac roeddent yn llwyddiannus. Roedd pleidlais a gynhaliwyd yn y Fenni ym mis Gorffennaf yn aflwyddiannus. Y tu allan i raglen Llywodraeth Cymru, mae AGBau hefyd ar waith yng Nghasnewydd, Abertawe a Merthyr Tudful ac mae diddordeb yn cael ei ddangos ar hyn o bryd mewn datblygu AGB yng Nghaerdydd.

 

Bwriedir cynnal pedair pleidlais arall ar gyfer AGBau o dan raglen Ardaloedd Gwella Busnes Llywodraeth Cymru, sef: Aberystwyth, Pen-y-bont ar Ogwr, Ystadau Diwydiannol Pant a Merthyr Tudful a Phontypridd. Caiff unrhyw gostau eu hariannu o'r gwariant gweddilliol.

 

e)    Cronfa Twf Economaidd Cymru

 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddyraniad ar gyfer Cronfa Twf Economaidd Cymru yn 2016/17. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn:

 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/economicgrowthfund/?lang=cy

 

Nodir dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfeydd i gefnogi busnesau yn Nhabl 2.

 

f)     Ardrethi Busnes

 

Datganolwyd ardrethi busnes i Gymru ym mis Ebrill 2015. Ers hynny, rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau proses bontio ddidrafferth a chynnal cyfundrefn ardrethi cystadleuol yng Nghymru. Ar 9 Rhagfyr 2015 cyhoeddwyd y byddai'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol yn cael ei ymestyn am 12 mis arall. Gellir gweld y manylion drwy ddilyn y ddolen isod:

 

http://gov.wales/newsroom/businessandeconomy/2015/10782870/?lang=cy

 

Bydd hyn yn lleihau cyfanswm yr Ardrethi Annomestig sy'n daladwy gan fusnesau bach yng Nghymru tua £98m yn 2016/17.

 

Wrth asesu gwerth am arian, caiff llwyddiant y cynlluniau ardrethi busnes a arweinir gan yr Adran eu monitro yn erbyn nifer y busnesau a'r math o fusnesau sy'n cael rhyddhad a nifer y safleoedd a adnewyddwyd neu a grëwyd. Gwneir penderfyniadau ynghylch cynlluniau sydd i'w cyflwyno yng Nghymru yn 2016/17 ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft.

 

ff) Cefnogi Allforio a Chefnogi Mewnfuddsoddi

 

Yn 2016/17 mae £1.892m wedi'i ddyrannu i gefnogi masnach a mewnfuddsoddi. Mae'r gyllideb graidd hon yn denu arian Ewropeaidd ar gyfer datblygu masnach ryngwladol.  Er mai un o'r nodau allweddol ar gyfer mewnfuddsoddi yw cynyddu'r stoc o gwmnïau sy'n eiddo i berchenogion tramor yng Nghymru drwy ennill buddsoddiadau newydd ac, ailfuddsoddiadau, mae cwmnïau a ehangwyd wedi chwarae rôl bwysig, a byddant yn parhau i chwarae rôl bwysig, o ran ein canlyniadau cyffredinol ar gyfer mewnfuddsoddi.

 

Ar gyfer perfformiad ym maes masnach caiff gwerthusiad o werth am arian ei fesur yn ôl gwerth busnes allforio newydd a sicrhawyd gan y cwmnïau a gefnogwyd gennym.  Yn 2014/15, cofnodwyd archebion newydd gwerth £52m mewn busnes newydd. Roedd hyn yn cyfateb i elw o fuddsoddiad o fwy na 25:1 ar gyfer gwariant net ar raglenni.  Byddem yn disgwyl mynd y tu hwnt i'r lefel hon o elw o fuddsoddiad yn 2015/16 a 2016/17.

 

Cyflawnir gweithgarwch mewnfuddsoddi drwy ddigwyddiadau, nawdd, seminarau a thanysgrifiadau ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys cymorth ar gyfer ymweliadau â Chymru gan bobl bwysig o dramor, sefydliadau eraill y llywodraeth a mewnfuddsoddwyr. Caiff y canlyniadau eu monitro'n ofalus o ran sicrhau gwerth am arian. Cyfiawnheir pob gwariant yn erbyn achos busnes manwl.

 

Dengys adroddiad blynyddol UKTI ar gyfer 2014/15 fod Cymru wedi llwyddo i ddenu'r nifer fwyaf erioed o brosiectau mewnfuddsoddi yn ystod y cyfnod hwnnw, gan fynd heibio i 100 o brosiectau am y tro cyntaf. Roedd y cynnydd yn nifer y prosiectau a ddenwyd, gan adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol, yn cyfateb i ychydig dros 5% o gyfanswm y prosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor ar gyfer y DU, ac roedd ganddo'r potensial i greu mwy na 5,000 o swyddi newydd (ychydig dros 6% o gyfanswm y DU).

 

Mae ein rhaglenni cefnogi allforio eisoes yn cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cydraddoldeb, cynaliadwyedd a'r Gymraeg ac, felly, nid yw'r materion hyn wedi dylanwadu ar y broses o ddyrannu'r gyllideb. Mae gweithgarwch mewnfuddsoddi sy'n cael ei gyflawni y tu allan i Gymru wedi'i eithrio o dan Safonau newydd y Gymraeg. Felly, ni fydd y Safonau newydd yn golygu gwariant ychwanegol wrth lunio llenyddiaeth i farchnadoedd allanol.

 

g)  Cymorth i Fenter Gymdeithasol

 

Wrth weithredu argymhellion Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru mae Llywodraeth Cymru yn rhoi tua £764,000 y flwyddyn er mwyn helpu i ddatblygu'r sector hwn yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer y prosiect Ewropeaidd a chyllid ar gyfer y mentrau cymdeithasol. Ategir hyn gan yr adroddiad, “Ai Cydfuddiannaeth yw'r Ffordd Ymlaen? Ffyrdd Newydd o Gynllunio a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru”, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Disgwylir adroddiad i adolygu'r camau a gymerwyd i weithredu argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn fuan.

 

Mae contractau tair blynedd wedi'u llunio â Chanolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru (mae'r ddau yn sefydliadau cymorth ac aelodaeth mentrau cymdeithasol arbenigol). Mae trefniadau ar gyfer rheoli a monitro grantiau ar waith. Er mwyn sicrhau bod y sefydliadau yn parhau i gyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru, mae swyddogion wedi dechrau adolygiadau gwerth am arian pellach er mwyn helpu i lywio ariannu, amcanion polisi a thargedau yn y dyfodol. Cwblheir yr adolygiadau erbyn diwedd mis Chwefror 2016.

 

Mae Prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ERDF yn gweithredu ochr yn ochr â gwasanaeth Busnes Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y prosiect yn rhoi cymorth busnes arbenigol i tua 500 o fusnesau cymdeithasol gan gynnwys cwmnïau cydweithredol, cwmnïau a berchenogir gan y gweithwyr a mentrau cymdeithasol sy'n awyddus i dyfu. Gallai hyn gynnwys trawsnewid busnes ym mherchenogaeth draddodiadol neu wasanaeth cyhoeddus yn fodel perchenogaeth gweithwyr a all gynnwys trosglwyddo ased cymunedol. At hynny, bydd yn helpu Elusennau i sefydlu canghennau masnachu er mwyn datblygu syniadau masnachol. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd, gan gynnwys astudiaethau achos a digwyddiadau drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru: http://business.wales.gov.uk/cy  a www.socialbusinesswales.gov.

 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru a WEFO er mwyn cytuno ar broses werthuso hirdymor ar gyfer prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru. 

 

h)     Partneriaeth ar gyfer Twf 2013-2020  - Strategaeth Twristiaeth

 

Lansiwyd Partneriaeth ar gyfer Twf ym mis Mehefin 2013 a nododd y potensial i gynyddu nifer yr ymweliadau a gwariant o farchnad ddomestig Prydain Fawr hyd at 2020. Mae cyfanswm y gwariant yng Nghymru gan ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn uwch na tharged y Bartneriaeth ar gyfer Twf i gynyddu enillion gwirioneddol 10% erbyn 2020.

 

Nododd y strategaeth hefyd y cyfle i gynyddu nifer yr ymwelwyr tramor â Chymru a gwariant ymwelwyr tramor - drwy fanteisio ar y cynnydd posibl yn nifer yr ymwelwyr (40m erbyn 2020) a nodwyd gan Visit Britain.  Dengys y ffigurau blwyddyn gyfan diweddaraf sydd ar gael (ar gyfer 2014) fod cynnydd calonogol wedi bod yn nifer yr ymwelwyr tramor sy'n dod i Gymru dros y ddwy flynedd diwethaf; mae tripiau i Gymru gan ymwelwyr tramor wedi cynyddu 9% ers 2012 ac mae gwariant ar y tripiau hyn wedi cynyddu 6% - sydd unwaith eto ar y trywydd iawn i gyflawni nodau'r strategaeth.  Mae hyn yn gwrthdroi'r patrwm lle roedd nifer y tripiau i Gymru gan ymwelwyr tramor yn gostwng cyn 2012.

Cyllideb Twristiaeth a Marchnata yw £12.262m ac mae'n ariannu gweithgarwch hyrwyddo a buddsoddiadau cyfalaf.

Ceir y wybodaeth fanwl ddiweddaraf am weithgareddau a gwaith monitro yn erbyn y strategaeth twristiaeth a'i gynllun gweithredu fframwaith cysylltiedig yn ystod yr ail flwyddyn ar wefan Llywodraeth Cymru:

 

http://gov.wales/docs/drah/publications/Tourism/150710-action-plan-2-cy.pdf

 

Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am fanteision economaidd twristiaeth a rhyw syniad o'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r strategaeth yn: 

 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/economicbenefittourism/?lang=en

 

i)     Sectorau â Blaenoriaeth

 

Pennir amcanion y sectorau â blaenoriaeth gan y panelau sector ac maent wedi'u cyhoeddi yng nghynllun cyflenwi'r sectorau sydd ar gael yn: 

 

http://gov.wales/docs/det/publications/130125deliveryplancy.pdf.

 

Caiff y dangosyddion allweddol ar gyfer swyddi a thwf eu monitro'n ofalus er mwyn sicrhau bod gwariant yn cael yr effaith fwyaf posibl o ran cyflawni Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Yn 2014/15 cefnogwyd mwy na 38,000 o swyddi yng Nghymru.  Roedd hyn yn welliant parhaus ar y 37,000 a gefnogwyd yn y flwyddyn flaenorol. Defnyddir amrywiaeth eang o ddangosyddion i fesur cynnydd gan y meysydd gweithredol sy'n cynnwys cyfuniad o weithgarwch a chanlyniadau. Maent wedi'u datblygu er mwyn bodloni'r gofynion i ddarparu set graidd o ddangosyddion allweddol i'w defnyddio ym mhob un o'r meysydd gweithredol, er mwyn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau y mae WEFO yn nodi ei bod yn ofynnol cydymffurfio â hwy pan ddefnyddir arian Ewropeaidd a darparu dangosyddion lleol ar gyfer meysydd busnes unigol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau ar lefel facro-economaidd sy'n cynnwys data ar Werth Ychwanegol Gros (GYG), swyddi cyflogeion, enillion yr awr yn ôl rhyw, cyflogaeth yn ôl lefel cymhwyster a rhai ystadegau ar lefel awdurdod lefel:

 

http://gov.wales/statistics-and-research/priority-sector-statistics/?lang=cy

 

Mae'r buddsoddiad yn ein naw sector allweddol wedi'i flaenoriaethu ac wedi'i gysoni â phrosesau cyflawni er mwyn galluogi buddsoddiad wedi'i dargedu a mentrau meithrin gallu a fydd, gyda'i gilydd, yn creu amgylchedd busnes cynaliadwy.  Ceir y wybodaeth fanwl ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn “Cefnogi Busnesau a'r Economi Datganiad Blynyddol 2015”.

 

Nodir cyllidebau refeniw a chyfalaf y sectorau â blaenoriaeth yn nhablau'r Llinell Wariant yn y Gyllideb a atodir yn Atodiad C.

j) Gwyddoniaeth i Gymru a Rhaglen Sêr Cymru

 

Rhoddodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am Wyddoniaeth, Ymchwil a Horizon 2020ar 25 Tachwedd 2015.

 

Gan gydnabod yr ymrwymiad i waith ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf a phwysigrwydd sicrhau manteision hirdymor mae £7.2m wedi'i ddyrannu i faes Gwyddoniaeth yn 2016/17. Mae'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru ac mae ar gael yn:

 

http://gov.wales/topics/science-and-technology/science/?lang=cy

 

Mae dull cydweithredol cadarn o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor adnoddau ymchwil newydd. Ariennir rhaglen newydd Sêr Cymru II gan gyllidebau craidd ac arian cyfatebol a roddir gan brifysgolion, Ewrop a chynllun COFUND Marie Sklodowska Curie Horizon 2020 (sy'n dyfarnu grantiau ar sail gystadleuol). Mae hon yn enghraifft o'r math o gydweithredu, integreiddio a meddwl hirdymor sy'n nodweddiadol o ddull gweithredu sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Mae'r manylion llawn yn y cyhoeddiad ar 15 Tachwedd sydd ar gael yn:

 

http://gov.wales/newsroom/science-and-technology/2015/151109-sercymru/?lang=cy

 

Caiff gwerth am arian yn yr hirdymor ei asesu yn ôl yr arian grant cynyddol a sicrheir gan weithgareddau Sêr Cymru o ran ceisiadau llwyddiannus i'r Cyngor Ymchwil, Innovate UK ac arian Ewropeaidd (Horizon 2020 a'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd).

 

l) Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd

 

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 6 Awst 2014.

 

http://gov.wales/docs/det/report/140717-welsh-lang-economic-dev-response-cy.pdf

 

Cymeradwywyd Safonau'r Gymraeg ar 24 Mawrth 2015 a chânt eu rhoi ar waith o ddiwedd mis Mawrth 2016.  Maent yn nodi'r lefel gyson o wasanaethau Cymraeg y gall aelodau o'r cyhoedd disgwyl eu cael gan sefydliadau yng Nghymru. Mae'r costau cysylltiedig wedi'u hymgorffori mewn prosesau darparu gwasanaethau ac mae nifer o fentrau megis Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi yn parhau i adeiladu ar arfer da presennol ar gyfer canlyniadau cadarnhaol mewn perthynas â'r iaith a'r economi.

 

Mae a wnelo datblygiad pwysig arall â Bwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Mae Prosiect Egin (S4C) wedi derbyn cryn gymeradwyaeth gan y Bwrdd, ynghyd â'r cais am arian Ewropeaidd a gyflwynwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Byddwn yn cynyddu gweithgarwch marchnata a chyfathrebu yn y Flwyddyn Newydd drwy lansio gwefan newydd a sefydlu ystafell farchnata digidol.  Fel rhan o'r ymarfer hwn rydym yn awyddus i nodi enghreifftiau arfer gorau o'r defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes ledled y rhanbarth.

 

Mae Busnes Cymru wedi cynyddu gweithgarwch marchnata a chyfathrebu megis yn y cyhoeddiad Golwg ac mewn Papurau Bro a hysbysebion ar radio cenedlaethol a arweiniodd at gynnydd o 39% yn nifer yr ymweliadau o gymharu â 2013/14 i busnes.cymru.gov.uk.

 

Mae'r iaith yn atgyfnerthu hunaniaeth Cymru sy'n bwysig i ddatblygu brand Cymru. Yn ystod Uwchgynhadledd NATO a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2014 hyrwyddwyd thema ganolog, sef “O Gymru / Wales Made”. Roedd Uwchgynhadledd Buddsoddi'r DU yng Nghymru 2014 a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2014 yn gwbl ddwyieithog ac roedd yn cydnabod bod hyn yn bwysig er mwyn rhoi ymdeimlad o le i'r holl westeion.

 

Byddwn yn parhau i werthuso ein prosesau cyflawni a phwysleisio bod y Gymraeg yn rhan annatod o'r broses o greu amgylchedd busnes sefydlog a ffafriol, hyrwyddo sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith economaidd gan gynnwys trafnidiaeth a chyfathrebu.

 

ll) Banc Datblygu i Gymru

 

Mae Cyllid Cymru yn gweithredu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a gadeirir gan yr Athro Dylan Jones-Evans, drwy sefydlu Banc Datblygu newydd i Gymru.  Roedd y Grŵp o'r farn y gallai creu'r banc datblygu rhanbarthol cyhoeddus cyntaf yn y DU ysgogi twf pellach yn economi Cymru. Yn ddiweddar penodwyd Gareth Bullock yn Gadeirydd ar Cyllid Cymru a bydd yn arwain y maes gwaith pwysig hwn.

Mae proses recriwtio yn mynd rhagddi er mwyn penodi Prif Weithredwr newydd ar gyfer Cyllid Cymru. Mae gennym broses gadarn ar waith ar gyfer monitro a gwerthuso'r sefydliad a byddem yn mabwysiadu prosesau tebyg i fonitro a gwerthuso Banc Datblygu i Gymru. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid Ymchwiliad i Cyllid Cymru yn 2014. Roedd mater bod yn agored a thryloyw yn thema allweddol. O ganlyniad, mae Cyllid Cymru wedi gwneud gwelliannau pwysig i'w wefan, lle mae gwybodaeth am berfformiad ac adroddiadau blynyddol a chyfrifon bellach ar gael yn hawdd.  Byddai'r sefyllfa hon yn parhau mewn perthynas â Banc Datblygu i Gymru a châi'r ddarpariaeth ei hymestyn er mwyn sicrhau bod y cylch gwaith hefyd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

 

4.3      Gwariant Ataliol

 

Anelir y gyllideb gyfan ar gyfer yr Economi a Gwyddoniaeth at atgyfnerthu'r amodau a fydd yn galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhan annatod o'n dull o sicrhau bod Cymru'n dod yn gymdeithas fwy llewyrchus, mwy cydnerth, iachach, tecach a mwy cyfartal.

 

Mae'r dull atal drwy gymryd camau i atal problemau rhag codi neu waethygu wedi parhau i fod wrth wraidd ein prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'r Gyllideb Ddrafft yn hyrwyddo dealltwriaeth fwy cyfannol o'r materion ym mhob un o'r meysydd gwasanaeth. Mae tystiolaeth mai gwaith â chyflog da yw'r llwybr gorau allan o dlodi a'r amddiffyniad mwyaf rhag tlodi ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Rydym yn parhau i greu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd gyda mentrau a buddsoddiad wedi'i dargedu ledled Cymru.

 

5.0      YR ECONOMI A GWYDDONIAETH - ARIANNU MEYSYDD RHAGLENNI GWARIANT

 

Mae cyfanswm y gyllideb arfaethedig ar gyfer yr Economi a Gwyddoniaeth yn 2016/17 wedi cynyddu £13.206m o gymharu â Chyllideb Sylfaenol 2015/16 (heb gynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol).

 

Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o £18.794m yn y gyllideb refeniw a chynnydd o £32m yn y gyllideb gyfalaf fel y nodir yn y tabl isod:

 

 

Cyllideb

Sylfaenol

 2015/16

£’000

Newid
     £’000

2016/17
Cyllideb

 Ddrafft
£’000

Refeniw

87,425

(18,794)

68,631

Anariannol

1,309

0

1,309

Cyfalaf

67,647

32,000

99,647

Cyfanswm

156,381

13,206

169,587

 

5.1      Sectorau a Busnes

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000

Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Sectorau a Busnes

Refeniw

49,215

(12,110)

37,105

Cyfalaf

46,133

47,394

93,527

 

CYFANSWM

95,348

35,284

130,632

 

Mae cyllidebau Sectorau a Busnes yn allweddol er mwyn cyflawni yn erbyn meysydd twf a swyddi cynaliadwy, trechu tlodi ac addysg a chyfle cyfartal y Rhaglen Lywodraethu. Mae cyfanswm y gyllideb, sef £130.632m, yn ariannu gweithgarwch cyflawni yn y Sectorau â Blaenoriaeth, Entrepreneuriaeth, Masnach a Mewnfuddsoddi ac Ardaloedd Menter.

 

Mae gostyngiad o £12.110m yn y gyllideb refeniw, gan fod £10.115m ac £1.995m wedi'u trosglwyddo i gamau gweithredu eraill ar gyfer ailalinio cyllidebau yn unol â blaenoriaethau a phrosesau cyflawni.

 

Mae cynnydd net o £47.394m yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer:

·         dyraniadau ychwanegol gwerth £32m i flaenoriaethau (Tabl 2);

·         mae £15.394m wedi'i drosglwyddo o gamau gweithredu eraill ar gyfer ailalinio cyllidebau er mwyn cefnogi prosiectau sy'n cael eu cyflawni.

 

5.1.1     Y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol

Refeniw

1,203

357

1,560

Cyfalaf

10,325

(5,875)

4,450

CYFANSWM

11,528

(5,518)

6,010

 

Mae'r gyllideb hon yn ariannu'r ymrwymiadau cytundebol sy'n weddill o dan y cynlluniau SIF/RSA etifeddol er mwyn anrhydeddu cynigion grant i gwmnïau yng Nghymru ar yr amod bod amodau a thargedau ar gyfer twf a swyddi wedi'u bodloni.

 

Mae cynnydd o £0.357m mewn refeniw yn ariannu'r gwaith o gyflawni prosiect hyfforddiant Airbus. Mae'r gostyngiad o £5.875m yn y gyllideb Gyfalaf yn adlewyrchu lefel yr ymrwymiad sy'n gostwng wrth i brosiectau gael eu cwblhau.

5.1.2     Sectorau

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Sectorau

Refeniw

37,692

(6,378)

31,314

Cyfalaf

35,808

53,269

89,077

CYFANSWM

73,500

46,891

120,391

 

Mae'r gyllideb yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Sectorau, Ardaloedd Menter a Masnach a Mewnfuddsoddi.  Ategir hyn gan ddadansoddiad manwl o'r gweithgareddau yn ôl Llinell Wariant yn y Gyllideb. Yn gyffredinol, mae cyllidebau'r sectorau wedi cael eu hailflaenoriaethu a'u hailbroffilio yn unol â phrosesau cyflawni gyda gostyngiad net o £6.378m yn y gyllideb refeniw. Mae cyllidebau craidd wedi'u defnyddio i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl drwy ddenu incwm Ewropeaidd ychwanegol er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau ac mae incwm wedi'i gynhyrchu drwy'r portffolio eiddo.

 

Yn 2016/17 mae dyraniadau cyfalaf ychwanegol gwerth £32m fel y nodir yn Nhabl 2 ac mae £21.269m wedi'i ailddyrannu o feysydd cyllidebol eraill:

 

a.    Bydd cyllid trafodion ariannol ychwanegol gwerth £7m yn galluogi buddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf er mwyn cefnogi cysylltiadau rhyngwladol a chefnogi datblygu economaidd hirdymor;

b.    Bydd Cronfeydd Datblygu Busnes gwerth £18m yn helpu BBaChau i gael gafael ar gyllid a gellid eu hailfuddsoddi;

c.    Bydd cyllid o £7m ar gyfer seilwaith Ardaloedd Menter yn hwyluso twf economaidd hirdymor.

ch.Bydd ailalinio cyllidebau i ddarparu ar gyfer swm o £21.269m sy'n cynnwys £5.875m o'r Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol ac incwm ychwanegol gwerth £15.394m o'r portffolio eiddo yn helpu i gyflawni prosiectau yr ymrwymwyd iddynt, yn enwedig Gwasanaethau Creadigol, Ariannol a Phroffesiynol a Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch.

 

 

 

 

5.1.3     Entrepreneuriaeth

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol

  2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes

Refeniw

10,320

(6,089)

4,231

CYFANSWM

10,320

(6,089)

4,321

 

Mae'r gyllideb ar gyfer Entrepreneuriaeth a Chyflawni yn ariannu entrepreneuriaeth ieuenctid, busnesau newydd, microfusnesau, BBaChau, menter gymdeithasol ac arferion busnes cyfrifol. Bydd arferion busnes cyfrifol yn hwyluso ymrwymiadau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ymddwyn yn foesegol a chyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu economaidd.

 

Mae'r gostyngiad i'w briodoli i'r cyfraddau ymyrryd uwch ar gyfer rhaglenni'r UE yng nghylch 2014-2020 ac ailbroffilio incwm yr UE. Rhoddir blaenoriaeth i hawlio arian yr UE o ddechrau'r rhaglen newydd. O ganlyniad, bydd y gofyniad cyllidebol yn is yn ystod blynyddoedd cynnar y prosiectau a bydd yn cynyddu wrth i'r rhaglen gael ei chyflawni.

 

5.2      Gwyddoniaeth ac Arloesi

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

2016/17 Cyllideb Ddrafft

£’000

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Refeniw

9,946

568

10,514

Cyfalaf

2,979

2,562

5,541

CYFANSWM

12,925

3,130

16,055


Mae'r cyllid gwerth £16.055m yn cefnogi mentrau i gyflawni Strategaeth Gwyddoniaeth Cymru a'r Strategaeth Arloesi.

 

5.2.1     Gwyddoniaeth

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000

Newid

£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Gwyddoniaeth

Refeniw

5,569

(774)

4,795

Cyfalaf

2,479

0

2,479

CYFANSWM

8,048

(774)

7,274

 

Mae'r gyllideb yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf gwerth £7.274m i gefnogi mentrau Sêr Cymru, Sêr Cymru 2 a'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol. Mae'r gostyngiad o £0.774m yn y dyraniad refeniw yn 2016/17 yn adlewyrchu'r broses ailbroffilio a'r potensial i gydgyllido rhaglenni newydd gan ddefnyddio arian allanol. Mae'r arian hwn yn cyfrannu at y cyfanswm o £50m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen bum mlynedd hon, sydd wedi'i hymestyn i 2018/19. Fe'i hategir hefyd gan gyllidebau Iechyd ac Addysg.

 

5.2.2     Arloesi

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000

 

 

Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Arloesi

Refeniw

4,377

1,342

5,719

Cyfalaf

500

2,562

3,062

CYFANSWM

4,877

3,904

8,781

 

Mae'r gyllideb refeniw ychwanegol gwerth £1.342m yn ariannu rhaglenni arloesi newydd yr UE, sef SMART Cymru ac Arbenigedd SMART, sy'n annog busnesau i fuddsoddi mewn arloesi a meithrin cysylltiadau â'r byd academaidd sy'n datblygu syniadau arloesol ar gyfer busnesau. Yn 2016/17 buddsoddwyd £2.562m o gyfalaf ychwanegol yn y Sefydlaid Lled-ddargludyddion.

 

5.3      Digwyddiadau Mawr

 

 Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Digwyddiadau Mawr

Refeniw

3,918

0

3,918

CYFANSWM

3,918

0

3,918

 

Bydd y gyllideb o £3.918m ar gyfer Digwyddiadau Mawr yn cefnogi gwaith gyda sefydliadau chwaraeon yng Nghymru a'r DU a sefydliadau chwaraeon rhyngwladol er mwyn sicrhau y caiff digwyddiadau mawr eu cynnal yng Nghymru.   

 

Hyd yma, mae cymorth ariannol wedi'i roi ar gyfer 23 o ddigwyddiadau a gynhelir yn 2016 gan gynnwys Hanner Marathon y Byd a Roald Dahl 100, yn 2017, bydd Cymru yn cynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA; a Ras Cefnfor Volvo yn 2018.

 

5.4      Seilwaith

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol

 2015/16

£’000

 



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Seilwaith

Refeniw*

19,671

(7,545)

12,126

Cyfalaf

18,456

(17,967)

489

CYFANSWM

38,127

(25,512)

12,615

*mae'n cynnwys terfyn grant ariannol o £1,309k ar gyfer adnoddau anghyllidol

 

Mae'r gyllideb o £12.615m ar gyfer 2016/17 yn cefnogi Seilwaith sy'n Ymwneud ag Eiddo a Seilwaith TGCh gan gynnwys prosiect Cyflymu Cymru.

 

5.4.1     Seilwaith TGCh

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000

 

Newid £’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Darparu Seilwaith TGCh

Refeniw*

8,286

(1,495)

6,791

Cyfalaf

16,304

0

16,304

CYFANSWM

24,590

(1,495)

23,095

*nid yw'n cynnwys terfyn grant adrannol o £1,309k ar gyfer adnoddau anghyllidol

 

Mae'r gyllideb yn ariannu'r gwaith o gyflawni nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys prosiect Cyflymu Cymru, prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus a chynllun Allwedd Band Eang Cymru.

 

Mae'r gostyngiad o £1.495m mewn refeniw yn cynnwys y canlynol:

·         £0.495m mewn refeniw a ailflaenoriaethwyd ac a ailbroffiliwyd er mwyn cyflawni gostyngiadau targed; 

·         Cyllid Buddsoddi i Arbed gwerth £1m ar gyfer prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus a ad-dalwyd.

 

Mae prosiect Cydgasglu Band y Sector Cyhoeddus yn darparu dull o brynu gwasanaethau rhwydweithio ardal eang ar y cyd ac integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae'n cefnogi dros 80 o sefydliadau sy'n darparu mwy na 4,000 o wasanaethau safle. Yn 2014 llwyddodd BT i ennill y contract ar gyfer contract newydd prosiect Cydgasglu Band y Sector Cyhoeddus. Disgwylir i'r contract newydd hwn gynnig mwy o werth am arian ac mae'n parhau â'r sylfaen gadarn o gydweithredu a phartneriaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus.

 

5.4.2     Eiddo

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol

 2015/16

£’000

 


Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                    

Darparu Seilwaith sy'n Ymwneud ag Eiddo

Refeniw

10,076

(6,050)

4,026

Cyfalaf

2,152

(17,967)

(15,815)

CYFANSWM

12,228

(24,017)

(11,789)

 

Mae Seilwaith sy'n Ymwneud ag Eiddo yn cynnwys rheoli a datblygu'r portffolio eiddo, gweithgarwch adfer tir a chynigion eiddo i fusnes.  Mae gweithgarwch yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau sectoraidd a gofodol.

Mae'r symudiad yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf yn adlewyrchu'r bwriad i gynhyrchu incwm drwy reoli'r portffolio eiddo. Mae'r incwm hwn wedi'i ailddyrannu rhwng y blaenoriaethau sectoraidd ac ailfuddsoddi mewn safleoedd strategol ledled Cymru er mwyn hyrwyddo twf a swyddi.

 

5.5      Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb

Sylfaenol

 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

Refeniw

5,984

293

6,277

Cyfalaf

79

11

90

CYFANSWM

6,063

304

6,367


Mae'r gyllideb yn cynnwys y grant gweithredol ar gyfer Cyllid Cymru, Rhaglen Her Iechyd Cymru, ad-daliadau i'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol a gweithgarwch cefnogi strategaethau.

 

5.5.1     Rhaglenni Corfforaethol

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                    

Rhaglenni Corfforaethol

Refeniw

3,033

533

3,566

Cyfalaf

79

11

90

CYFANSWM

3,112

544

3,656


Mae'r cynnydd o £0.533m mewn refeniw yn ymwneud ag adolygiad o'r gofynion ariannu ar gyfer adolygiadau o fuddsoddiadau strategol a buddsoddiad yn y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd.

 

Mae'r cynnydd o £0.011m yn y gyllideb gyfalaf yn ymwneud â phroffil ad-dalu benthyciadau etifeddol i'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol.

 

5.5.2     Cyllid Cymru

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Cyllid Cymru

Refeniw

2,400

(240)

2,160

CYFANSWM

2,400

(240)

2,160


Mae'r gyllideb hon yn rhoi grant gweithredu i Cyllid Cymru sy'n helpu i weinyddu cronfeydd buddsoddi ar gyfer busnesau.  Mae'r grant gweithredu wedi'i leihau £0.240m er mwyn darparu ar gyfer arbedion effeithlonrwydd gweithredol.


5.5.3     Rhaglenni Strategaeth

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Rhaglenni Strategaeth

Refeniw

551

0

551

CYFANSWM

551

0

551


Mae'r gyllideb yn ariannu gweithgarwch dadansoddi economaidd ac ymgysylltu strategol, gan gynnwys cymorth i ddinas-ranbarthau, er mwyn llywio penderfyniadau gwario allweddol.

 

6.0      TRAFNIDIAETH

 

Yn 2016/17 mae'r blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth wedi'u pennu yng nghyd-destun argaeledd cyllideb a'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2015.  Mae'r cynllun hwn yn nodi'r blaenoriaethau o ran buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith ac yn canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y pum mlynedd nesaf fel y nodir yn y datganiad sydd ar gael yn:

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/10383639/?lang=cy

 

Mae gan drafnidiaeth rôl hanfodol i'w chwarae o ran gwella cystadleurwydd economaidd Cymru a chael gafael ar swyddi a gwasanaethau. Mae'r Cynllun yn nodi sut a phryd y caiff gwelliannau i'r rhwydweithiau ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus eu cyflawni er mwyn helpu busnesau i ffynnu a sicrhau y gall pobl fanteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt er mwyn byw bywydau iach, cynaliadwy a bodlon. 

 

Mae dull cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer deall perfformiad y system drafnidiaeth, asesu'r angen i ymyrryd ac ystyried effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein cynlluniau ar gyfer y system drafnidiaeth. Mae'r cynlluniau yn y Cynllun yn targedu pum maes allweddol â blaenoriaeth, sef: twf economaidd, trechu tlodi, teithio cynaliadwy a diogelwch a gwella mynediad i gyflogaeth a gwasanaethau gan ein helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant ehangach. Bydd y buddsoddiadau a nodwyd yn darparu system drafnidiaeth fwy integredig a chynaliadwy i bawb. 

 

Bydd camau gweithredu yn y Cynllun yn gwneud y canlynol:

 

Ø  gwella argaeledd, ansawdd a diogelwch trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol a mynediad iddynt;

Ø  helpu i leihau unrhyw anfantais i grwpiau gwarchodedig a'r rhai ar incwm isel drwy ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig o safon (gan gynnwys darparu gwybodaeth ddwyieithog sy'n hawdd ei deall)

Ø  sicrhau y parheir i ariannu gwasanaethau bysiau cymdeithasol angenrheidiol.

 

Mae cyfres o setiau data cenedlaethol yn darparu gwybodaeth gyson a chymaradwy ledled Cymru ac yn nodi meysydd lle mae'r system drafnidiaeth yn tanberfformio. Caiff y setiau data eu diweddaru yn rheolaidd ac fe'u defnyddir i fonitro perfformiad y system, gan roi rhybuddion cynnar o faterion sy'n dod i'r amlwg a gwybodaeth am dueddiadau tymor hwy. Caiff data trafnidiaeth eu cyfuno â ffynonellau data eraill, megis y cyfrifiad a data defnydd tir, er mwyn darparu gwybodaeth am effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol y system drafnidiaeth. Ceir pum categori o ddata trafnidiaeth - amseroedd teithio, nifer y teithiau a wneir, diogelwch, gwybodaeth atodol a gwybodaeth gyd-destunol.

 

6.1      Polisïau Allweddol

 

Darperir gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb i'r ceisiadau penodol a wneir gan y Pwyllgor fel a ganlyn:

a)    Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol

 

Ceir naw Cynllun Trafnidiaeth Lleol yng Nghymru. Fe'u cymeradwywyd gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar 20 Mai 2015. Datblygwyd y cynlluniau gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio 'canllawiau'r cynlluniau trafnidiaeth lleol'.  Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r sail ar gyfer monitro a gwerthuso'r cynlluniau.  Eleni cyhoeddwyd cymorth ariannol gwerth £27m ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol ledled Cymru ac mae'r manylion ar gael yn:

http://gov.wales/topics/transport/planning-strategies/local-transport/?lang=cy

 

Yn 2016/17 mae arian ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n cefnogi'r economi, yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn galluogi teithio llesol. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau allweddol eraill er mwyn sicrhau y cyflawnir y blaenoriaethau allweddol.

 

b)   Datblygiadau ar Draffordd yr M4

 

Mae gwaith datblygu'r M4 o amgylch Casnewydd yn bwysig i ffyniant economaidd Cymru ac mae cefnogaeth gref iddo ymhlith busnesau yng Nghymru. Bu'r prosiect yn destun ymgynghoriad eang a bydd yn gwella hygyrchedd ar gyfer pobl, nwyddau a gwasanaethau Cymreig i farchnadoedd rhyngwladol trwy fynd i'r afael â materion trafnidiaeth ar un o'r prif byrth i Gymru. Yn ystod 2015 mae gwaith wedi dechrau i asesu'r ffordd orau o'i adeiladu, pa dir fyddai ei angen a pha fesurau y byddai angen eu rhoi ar waith er mwyn diogelu'r amgylchedd. Ar hyn o bryd mae pecyn ariannu yn cael ei ddatblygu sy'n cynnwys cyfalaf Llywodraeth Cymru a benthyciad cyhoeddus er mwyn sicrhau y gellir parhau i gynllunio gwaith i fwrw ymlaen â chyflawni'r cynllun.

 

c)    Y Wybodaeth Diweddaraf am Asiantau Cefnffyrdd

 

Yn ychwanegol at y newid mawr a welwyd dros y 10 mlynedd diwethaf mae nifer o newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r trefniadau, y bwriedir i bob un ohonynt wella ansawdd y gwasanaeth.  Mae cyfres o ymarferion rhesymoli rhwng 2005 a 2012 wedi lleihau nifer yr asiantau cefnffyrdd yn y sector cyhoeddus o wyth i ddau.   Cododd archwiliad annibynnol a gynhaliwyd rhwng diwedd 2013 a 2014 bryderon nad yw'r newidiadau hyn wedi mynd yn ddigon pell, gan gyfeirio at dryloywder a gweladwyedd eu costau fel materion a ataliodd yr archwilwyr rhag rhoi sicrwydd bod y trefniadau presennol yn cynnig gwerth am arian.

 

Mae hyn wedi arwain at gytuno ar gynigion gan yr asiantau a fydd yn cyflawni arbedion o £6m yn 2016/17 mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau statudol.  Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi pennu targed i'r asiantau gyflawni arbedion pellach o £8m y flwyddyn drwy fabwysiadu arferion gwaith mwy effeithlon ac arloesol a defnyddio technoleg newydd.  Mae'r arbedion hyn yn cyfateb i ostyngiad o 10%, gan gynyddu i 20%, o gymharu â llinellau sylfaen 2015/16.  Ystyrir y ffordd orau o ddefnyddio'r arbedion hyn gan gynnwys ailfuddsoddi yn y rhwydwaith er mwyn gwrthbwyso gwariant yn y dyfodol.

 

Ar hyn o bryd mae'r asiantau yn gweithio ar gyflawni'r arbedion hyn gan ganolbwyntio'n fras ar dri maes y Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd, y rhestr o gyfraddau a chostau rheoli.  Bydd yr asiantau yn llunio Cynlluniau Cyflawni Arbedion a gaiff eu monitro gan gorff annibynnol o fis Ebrill 2016 er mwyn olrhain cynnydd.

 

Ochr yn ochr â hyn, argymhellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Awst 2015 gyfres o gamau gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar wella gwerth am arian wrth reoli a chynnal a chadw'r rhwydwaith traffordd a chefnffyrdd.  Gwnaed 18 o argymhellion, a oedd yn amrywio o ran y pwnc a'r amserlen ar gyfer eu gweithredu. 

http://www.cynulliad.cymru/laid%20documents/cr-ld10271/cr-ld10271-w.pdf

 

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran cyflawni erbyn y dyddiadau targed.  Yn benodol, cyflwynwyd adroddiad ar ganfyddiadau'r ystyriaeth a roddwyd i fodel un asiant, mae rhaglen i ddarparu system gyllid o fewn system rheoli gwybodaeth IRIS yn cael ei threialu a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch ‘Strategaeth Gwaith Stryd ar gyfer Cymru’ ar 7 Rhagfyr 2015.  

 

ch)         Darparu ar gyfer Bil Teithio Llesol 

 

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddeddf gwbl arloesol a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru. Mae'r Ddeddf - y cyntaf o'i bath yn y byd - yn ei gwneud hi'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol Cymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, a hefyd adeiladu a gwella eu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio bob blwyddyn. Mae'n creu dyletswyddau newydd ar gyfer awdurdodau'r priffyrdd, fel eu bod yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr ac yn sicrhau gwell darpariaeth ar eu cyfer. Mae hefyd yn golygu ei bod hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo cerdded a beicio fel dull trafnidiaeth. Trwy gysylltu safleoedd allweddol fel gweithleoedd, ysbytai, ysgolion ac ardaloedd siopa â llwybrau teithio llesol, bydd y Ddeddf yn annog pobl i ddibynnu llai ar eu ceir wrth wneud teithiau byr.

 

Ar 9 Rhagfyr 2015 cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – Adroddiad Blynyddol 2015 a gellir ei weld drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/activetravelact/?lang=cy

 

Cefnogir Teithio Llesol drwy nifer o linellau yn y cyllidebau cyfalaf a refeniw. Mae buddsoddiadau seilwaith mewn llwybrau teithio llesol lleol yn cael eu gwneud yn bennaf drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ac weithiau y Grant Diogelwch Ffyrdd. Mae nifer a maint penodol cynlluniau teithio llesol a ariennir o'r dyraniad cyllid cyfalaf cyfunol, sef £24m, yn amrywio bob blwyddyn yn ôl cryfder ac uchelgais cynigion a gyflwynir gan awdurdodau lleol.

 

Mae adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi agenda Teithio Llesol gyda mentrau megis yr Her Teithio Llesol Genedlaethol, a gynhelir gan yr Adran Iechyd.

 

d)   Cyfleoedd Cyllido Ychwanegol 

 

Mae fframwaith cyllido Cyfleuster Cysylltu Ewrop yn helpu i gynnal cysylltedd Trafnidiaeth (TEN-T), Ynni a Chyfathrebu.  Mae'n broses gwbl gystadleuol.  O dan CEF, darperir €26.25 biliwn o gyllideb yr UE ar gyfer 2014-2020 er mwyn cydgyllido prosiectau TEN-T yn Aelod-wladwriaethau'r UE.

O ran TEN-T/CEF, mae Cymru yn rhan o Brosiect 'Easyways', sydd ar waith ledled y DU, i osod systemau traffig deallus ar gyfer ffyrdd, sydd eisoes wedi cael arian TEN-T o dan y trefniadau blaenorol. At hynny, rhoddwyd grant i brosiect Cymorth Technegol sy'n ymwneud â staff.

 

Roedd holl geisiadau Llywodraeth Cymru o dan y Cais Cyntaf ar gyfer CEF yn ymwneud â'r môr a phorthladdoedd ac roeddent ar gyfer prosiectau i wella mynediad i borthladdoedd TEN-T, gan gynnwys ffordd yr A55 a Chaergybi. Er i ansawdd ein ceisiadau gael ei ganmol, ni fu'r un ohonynt yn llwyddiannus. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod trefniadau ariannu newydd TEN-T yn blaenoriaethu prosiectau trafnidiaeth nad ydynt yn ymwneud â ffyrdd, oni bai eu bod mewn gwladwriaethau sydd wedi'u derbyn.

 

Cyflwynodd Network Rail gais o dan y Cais Cyntaf hefyd ar gyfer trydaneiddio Prif Linell De Cymru – un o lwybrau rheilffordd craidd TEN-T– a bu'n llwyddiannus.Mae'r wybodaeth am Gais 2015/16 yn dod i law gyda ffocws ar flaenoriaeth ‘Traffyrdd y Môr’. Gellir ystyried prosiectau sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysylltedd ag Iwerddon gyda gweithgarwch ymgysylltu parhaus â Llywodraeth Iwerddon a chynrychiolwyr o ddiwydiant yn Iwerddon ynghylch cyd-brosiectau posibl.

 

Mae ceisiadau wedi'u cael eu gwneud er mwyn manteisio ar y cylch newydd o arian yr UE.  Mae rhaglenni seilwaith mawr megis Metro hefyd wedi'u rhoi ar restr fer y DU er mwyn manteisio ar Gronfeydd Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strategol.

 

Ar gyfer cynlluniau ffordd allweddol megis ffordd yr A465 mae defnyddio model buddsoddi Dosbarthu Di-elw yn gyfle buddsoddi arloesol pwysig arall yr ymchwilir iddo ochr yn ochr â'r gallu i ddefnyddio pwerau benthyca uwch ar gyfer cyflawni cynllun yr M4.

 

dd)        Buddsoddi  mewn seilwaith a gwasanaethau rheilffordd, gan gynnwys Trydaneiddio/Moderneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd

 

Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt â'r diwydiant er mwyn nodi'r atebion gorau posibl i gyflawni rhaglen trydaneiddio/moderneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a'r gwelliannau o ran ansawdd, capasiti, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd a ddisgwylir.  Bydd trydaneiddio'r brif linell yn gam enfawr ymlaen o ran creu gwasanaeth trên modern a all ateb y galw yn y dyfodol a chefnogi twf economaidd ledled Cymru. Mae goblygiadau Adroddiad Hendy ar drydaneiddio'r brif linell, a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sydd wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r amseriadau ar gyfer cyflawni'r prosiect, wrthi'n cael eu hystyried. 

 

Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17 yn cynnwys darpariaeth i barhau â gwaith i wella seilwaith rheilffyrdd â bysiau a fydd yn dod â manteision uniongyrchol yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyflawni prosiect y Metro.

 

Nododd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y materion ar gyfer Masnachfraint Cymru a'r Gororau mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2015. Mae'n cadarnhau bod achos busnes ac ymgynghoriad yn cael eu datblygu ac y caiff egwyddorion trafnidiaeth integredig eu hystyried. Pe câi'r fasnachfraint ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru efallai y sicrheid gwell gwerth am arian yn yr hirdymor. 

 

http://www.senedd.assembly.wales/documents/S46102

 

Mae'r gwaith i gyflawni prosiect y Metro yn parhau ac mae bron bob un o brosiectau Cyfnod 1 eisoes wedi'u cyflawni neu ar fin cael eu cwblhau.  Mae gwaith yn cael ei wneud ar gam nesaf y prosiect ac mae prif elfen y prosiectau cyfansoddol eisoes wedi'i nodi, ac mae cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.   Mae'r prosiectau wedi'u costio i lefel uchel ac ar hyn o bryd amcangyfrifir y byddant yn costio tua £580m ar gyfer Cyfnod 2.  Bwriedir i'r cam hwn gael ei gyflawni rhwng nawr a 2023.  Ymhlith y ffynonellau cyllido posibl ar gyfer y cynlluniau hynny a nodwyd eisoes mae cyfraniad yr Adran Drafnidiaeth i'r gwaith o drydaneiddio a moderneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a defnyddio arian yr UE o dan raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer 2014-2020.  Parheir i ymchwilio i ffynonellau ychwanegol o gyllid er mwyn helpu i gyflawni'r prosiect strategol hwn.  

 

Ym mis Chwefror 2015 cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ffurfio cwmni cyfyngedig dan warant ym mherchenogaeth lwyr Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau sy'n ymwneud â phrosiectau seilwaith trafnidiaeth. Mae'r cwmni hwn bellach wedi'i greu a bydd yn gyfrifol am ddatblygu'r rhaglen gyflawni ar gyfer prosiect y Metro.

 

e)    Buddsoddi mewn Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol

 

Rhoddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr ymchwiliad i Drafnidiaeth - Bysiau a'r Gymuned ar 3 Rhagfyr 2015.

 

http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s46823/EBC4-29-15%20p.7%20Tystiolaeth%20gan%20Lywodraeth%20Cymru%20ANGEN%20YCHWNEGUR%20GYMRAEG.pdf

 

Mae Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yn parhau i fod yn ystyriaeth â blaenoriaeth ar gyfer fy nghyllideb gyda £25m yn cael ei ddyrannu unwaith eto i Awdurdodau Lleol o dan y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol angenrheidiol.

 

Hefyd, cyflwynwyd gwell gwasanaethau bysiau pellter hwy TrawsCymru, er enghraifft yng ngogledd Cymru ar lwybr T3 rhwng y Bermo a Wrecsam a llwybr T2 rhwng Bangor ac Aberystwyth.  Mae'r ddau lwybr hefyd wedi cael budd o docynnau mwy fforddiadwy sydd â'r nod o annog pobl ifanc i ddefnyddio'r gwasanaethau megis Tocyn Bwmerrang sy'n cynnig tocynnau teithio rhatach ar y penwythnos.

 

Cyflwynwyd cyfleusterau cludo beiciau ar wasanaeth y T3, gan alluogi pobl i gyrraedd rhannau poblogaidd o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yng ngogledd Cymru ar y llwybr rhwng Dolgellau ac Afon Mawddach ac ar Gamlas Llangollen. Ar rai llwybrau mae cerbydau newydd wedi'u harchebu i'w defnyddio yn ystod 2016 sy'n cydymffurfio â manyleb lawn TrawsCymru. Parheir i gefnogi'r gwasanaethau hyn yn ystod 2016/17.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gydgysylltu gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn Nyffryn Conwy yn well drwy gyflwyno trefniadau ar gyfer gwerthu tocynnau ar y cyd a gwella gwasanaethau bysiau ar gyfer cymunedau gwledig gan eu galluogi i gyrraedd gorsafoedd rheilffordd a chanolfannau yn y Dyffryn yn haws. Ategir hyn drwy ddarparu gwell gwybodaeth ar gyfer teithwyr. Bydd gwelliannau yn Nyffryn Conwy hefyd yn cynnwys cydgysylltu gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn well a gwell cysylltiadau ym mhennau rheilffyrdd, yn enwedig Blaenau Ffestiniog.

 

Rydym yn aros am gynigion amlinellol ar gyfer Cynllun Partneriaeth Ansawdd statudol i fysiau ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Mae swyddogion yn ymchwilio i'r posibilrwydd o weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau er mwyn datblygu'r cynllun a allai gynnwys gwell gwasanaethau bysiau yn cysylltu canolfannau allweddol ar hyd arfordir Gogledd Cymru rhwng Treffynnon i Landudno. Amcanion y Cynllun fyddai cynyddu amlder a gwella oriau gweithredu gwasanaethau, darparu gwell cysylltiadau â chyfleusterau gofal iechyd allweddol ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn well â'r rhwydwaith rheilffyrdd.  Mae cyllid i gefnogi'r rhwydwaith bysiau, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol a gwasanaethau TrawsCymru, yn gynyddol amodol ar gyflawni canlyniadau ansawdd penodol. Mae enghreifftiau yn cynnwys darparu hyfforddiant cydraddoldeb anabledd ac ymwybyddiaeth o anabledd ar gyfer gyrwyr, gweithdrefn gwyno i gwsmeriaid a gwell gwybodaeth. At hynny, rydym yn annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o Gynlluniau Partneriaeth Ansawdd statudol a gwirfoddol i fysiau lle mae arian cyhoeddus yn dibynnu ar weithredwyr yn darparu cerbydau neu wasanaethau gwell neu newydd.      

 

Mae'r gyllideb ar gyfer tocynnau teithio rhatach wedi'i diogelu a bydd yn parhau i roi cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i gyllido'r cynllun ar gyfer pobl hŷn neu anabl.  2016/17 fydd blwyddyn olaf y trefniant tair blynedd presennol.

 

Yn ystod 2016/17 byddwn yn gweithio'n agos ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y diwydiant bysiau er mwyn cyflawni'r cynllun yn y dyfodol gan ganolbwyntio ar fforddiadwyedd, gwerth am arian a'r egwyddor na ddylai gweithredwyr fod “er eu hennill nac ar eu colled” o ganlyniad i'r trefniant cyllido.

 

Mae cynllun FyNgherdynTeithio (a elwir hefyd yn Gynllun Teithio Rhatach i Bobl Ifanc) yn rhoi cymorth grant i weithredwyr bysiau er mwyn adlewyrchu'r costau y maent yn mynd iddynt wrth roi disgownt o 1/3 i bobl ifanc 16, 17 a 18 oed ledled Cymru.  Yn 2016/17 mae cyllid gwerth £9.750m wedi'i ddiogelu er mwyn cyflawni'r cynllun.

 

6.2   Gwariant Ataliol

 

Wrth gyflawni canlyniadau gwell mae mesurau gwariant ataliol yn bwysig ar gyfer yr hirdymor.  Gellir priodoli'r rhan fwyaf o wariant ar Drafnidiaeth sy'n gysylltiedig â rhaglenni a pholisïau ar gyfer tocynnau bws rhatach, rheoli rhwydweithiau a diogelwch ar y ffyrdd fel gwariant ataliol.  

 

 

7.0      TRAFNIDIAETH - ARIANNU MEYSYDD RHAGLENNI GWARIANT

O gymharu â 2015/16, mae cynnydd o £47.332m yng nghyfanswm cyllideb Trafnidiaeth ar gyfer 2016/17. Mae gostyngiad net o £0.152m mewn refeniw sy'n deillio o ddyraniadau ychwanegol ar gyfer tocynnau teithio rhatach sy'n gwrthbwyso gofyniad refeniw llai ar gyfer rheoli rhwydweithiau. Mae cynnydd o £47.484m mewn cyfalaf yn adlewyrchu dyraniadau o Gronfeydd Canolog wrth Gefn i helpu i gyflawni gweithgarwch rheoli seilwaith a rhwydweithiau arferol a phrosiect Pont Dyfi ar ffordd yr A487. Mae prosiectau ychwanegol wrthi'n cael eu hystyried a chânt eu neilltuo yn unol â Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

 

Cyllideb Sylfaenol

 2015/16

£’000

Newid
2016/17


     £’000

Cyllideb

 Ddrafft

2016/17
£’000

Refeniw

305,441

(152)

305,289

Anariannol

108,691

0

108,691

Cyfalaf

194,349

47,484

241,833

Cyfanswm

608,481

47,332

655,813

 

7.1      Gweithrediadau Rhwydwaith Traffordd a Chefnffyrdd

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol

 2015/16

£’000

Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Gweithrediadau Rhwydwaith Traffordd a Chefnffyrdd

Refeniw

57,789

(6,000)

51,789

Anariannol

108,691

0

108,691

Cyfalaf

50,550

20,050

70,600

CYFANSWM

217,030

14,050

231,080

 

Mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am y Rhwydwaith Traffordd a Chefnffyrdd, sy'n un o asedau seilwaith pwysicaf Cymru.  Mae'n helpu i gyflawni llawer o ymrwymiadau ac uchelgeisiau'r Rhaglen Lywodraethu a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y rhan fwyaf o feysydd polisi gan gynnwys yr economi, iechyd ac addysg ac mae cost ei adnewyddu wedi'i dibrisio yn fwy na £13bn. Felly, mae cyllid digonol ar gyfer cynnal a chadw'r rhwydwaith yn hanfodol er mwyn cynnal y cyflwr a'r lefelau gwasanaeth sydd eu hangen er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswyddau statudol o ran diogelwch a chyflawni ei hamcanion polisi ehangach ar gyfer Cymru.

 

Mae asesiad o raglen cynnal a chadw'r rhwydwaith wedi nodi gostyngiad o £6m yn y gofyniad refeniw wrth i'r rhaglen ganolbwyntio ar waith cynnal a chadw cyfalaf yn unol â dull gwario i arbed. 

 

Yn 2016/17 mae swm ychwanegol o £20m (Tabl 2) wedi'i ddyrannu ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyfalaf a gwella'r rhwydwaith ffyrdd presennol. Mae'r buddsoddiad yn cefnogi strategaeth gwario i arbed a fydd yn cynnig gwell gwerth am arian yn yr hirdymor a lleihau pwysau refeniw yn y dyfodol.  Mae swm ychwanegol o £0.050m wedi'i ddyrannu ar gyfer arwyddion Theatr Hafren sydd eu hangen yn y Drenewydd.

 

7.2      Gwella a Chynnal a Chadw'r Rhwydwaith Cefnffyrdd (Llwybrau Domestig) - Anariannol

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol

 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Gwella a Chynnal a Chadw'r Rhwydwaith Cefnffyrdd (Llwybrau Domestig)

Refeniw

108,691

0

108,691

CYFANSWM

108,691

0

108,691


Mae'r gyllideb anariannol yn darparu ar gyfer dibrisiant blynyddol y rhwydwaith cefnffyrdd.

 

7.3      Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

Refeniw

185,679

0

185,679

CYFANSWM

185,679

0

185,679

 

Mae'r gyllideb yn ariannu Masnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru. Mae fforddiadwyedd Masnachfraint Cymru a'r Gororau yn destun pryder penodol yn yr hirdymor am ei fod yn gysylltiedig â'r mynegai prisiau manwerthu, enillion wythnosol cyfartalog a pherfformiad Trenau Arriva Cymru.

 

 

 

7.4   Buddsoddi mewn Ffyrdd a Rheilffyrdd

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Cynlluniau Ffyrdd a Rheilffyrdd

Cyfalaf

55,785

27,434

83,219

CYFANSWM

55,785

27,434

83,219

 

Mae'r gyllideb yn ariannu gwelliannau cyfalaf i ffyrdd a rheilffyrdd.  Yn 2016/17 mae £21.424m wedi'i ddyrannu i gyflawni blaenoriaethau o ran seilwaith ffyrdd ac mae £6m wedi'i ddyrannu'n benodol ar gyfer Pont Dyfi ar ffordd yr A487.

 

7.5      Gwella a Chynnal a Chadw'r Seilwaith Ffyrdd Lleol 

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Cyllid Cyfalaf Cyffredinol - Ffyrdd

Cyfalaf

13,667

0

13,667

CYFANSWM

13,667

0

13,667

 

Yr elfen cyfalaf trafnidiaeth o setliad llywodraeth leol yw £13.667m.  Ni ellir defnyddio'r arian hwn at unrhyw ddiben arall.

 

7.6      Teithio Cynaliadwy

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Teithio Cynaliadwy

Refeniw

52,209

1,098

53,307

Cyfalaf

67,447

0

67,447

CYFANSWM

119,656

1,098

120,754

 

Mae'r gyllideb hon yn ariannu buddsoddi mewn trafnidiaeth integredig, teithio llesol, tocynnau teithio rhatach, cardiau clyfar a bysiau, rheilffyrdd a ffyrdd lleol.   

 

Mae Tocynnau Teithio Rhatach wedi'u diogelu gyda chynnydd o 1% uwchlaw newidiadau i derfyn grant adrannol Cymru yn gyffredinol sy'n cyfateb i gynnydd o £1,098m. Hon yw blwyddyn olaf trefniant tair blynedd â'r diwydiant bysiau.  Ychwanegir at y swm hwn gan yr awdurdodau lleol. Mae gofynion ariannu'r gweithredwyr bysiau wrth gyflawni'r cynllun tocynnau teithio rhatach yn cynnwys elfennau refeniw a chyfalaf er mwyn adlewyrchu'r gwariant cyfalaf cysylltiedig y maent yn mynd iddo, er enghraifft caffael cerbydau ychwanegol.

Cynhelir y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Gwasanaethau Bysiau ar £25m gyda gofynion penodol i gyflawni mentrau trafnidiaeth gymunedol.

 

 

7.7      Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc

Refeniw

5,000

4,750

9,750

CYFANSWM

5,000

4,750

9,750

 

Y cyllid ar gyfer y Cynllun Teithio Rhatach ar Fysiau i Bobl Ifanc, sef £9.750m, yw ail flwyddyn y Cytundeb Cyllidebol â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a gafodd £5m yn 2015/16. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc, gan eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd gwaith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau a bydd o fudd penodol i bobl o gartrefi incwm isel ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi.

 

7.8      Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

£’000



Newid
£’000

 Cyllideb Ddrafft 2016/17 £’000                   

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

Refeniw

4,764

0

4,764

Cyfalaf

6,900

0

6,900

CYFANSWM

11,664

0

11,664

 

Mae'r gyllideb refeniw yn ariannu trefniadau ymgysylltu ac ariannu gyda phartneriaid allanol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu a'u lladd, gan ddefnyddio strwythurau llywodraethu diogelwch ar y ffyrdd er mwyn rhoi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diogelwch ar y Ffyrdd ar waith. Mae'r Cynllun yn nodi ein hymagwedd strategol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd hyd at 2020. 

 

Mae'r gyllideb gyfalaf yn ariannu gwelliannau cyfalaf i beirianneg diogelwch ar y ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a ffyrdd lleol. 

 

8.0      DEDDFWRIAETH

 

Deddf Teithio Llesol 2013

 

Fe'i hystyrir yn adran 6.1 (ch).

 

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

 

Mae'r Ddeddf Cynllunio (Cymru) yn gweithredu llawer o'r argymhellion a nodir yn adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar y system gynllunio.  Mae swyddogion yr Adran wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Bil Cynllunio wrth iddo fynd drwy ei gyfnodau nesaf.  Ni fydd unrhyw effeithiau cyllidebol uniongyrchol ar yr Adran yn 2016/17.

 

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, nawr ac yn y dyfodol. Bydd y Ddeddf yn golygu bod polisïau yn cael eu cyflawni mewn ffordd gynaliadwy ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau rhag codi a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

 

Drwy sefydlu un fframwaith cyfreithiol cyfrwymol, mae'r Ddeddf yn fodd i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r gorgymhlethdod a nodwyd gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd yn darparu ffordd o feithrin ein gallu i gyflawni yn y dyfodol.  Wrth gynllunio ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2016-17, rydym wedi manteisio ar y cyfle i edrych i'r dyfodol er mwyn targedu buddsoddiad mewn canlyniadau cynaliadwy a mabwysiadu'r pum ffordd allweddol o weithio a nodwyd gan y Ddeddf ac wedi cydbwyso effeithiau hirdymor posibl ein penderfyniadau â'n hanghenion byrdymor.

 

Bil Cymru Drafft

 

 

Ni ddisgwylir i Fil Cymru ddod i rym tan fis Ebrill 2017 ac ni fydd unrhyw oblygiadau ariannol i gyllideb 2016/17, ac eithrio adnoddau staff sydd eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer trosglwyddo'r swyddogaethau hyn.

 

Bil Menter

 

Nid ydym yn disgwyl i ‘Bil Menter - Comisiynydd Busnesau Bach’ effeithio ar ein cyllideb. Mae'n ymwneud â meysydd annatganoledig ac, felly, bydd y gweithgarwch yn gymwys ledled Cymru.

 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer darlledu ar y radio a'r teledu ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru rolau a diddordebau o ran y Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ofcom, gan gynnwys rôl gynghori ffurfiol yn yr adolygiad presennol o Siarter Frenhinol y BBC.

 

 


 

                                                                                                                                                                                Atodiad A

 

 

Cysoni Cyllideb Atodol 2015/16 â Chyllideb Sylfaenol 2015/16

 




 

  Refeniw

2016-17  
£’000

 

Cyfalaf

2016-17   
£’000

Cyllideb Atodol 2015/16

408,366

471,296

Llai: Dyraniadau anghylchol

 

Ardrethi Busnes

 

Prosiect Cydgasglu Band y Sector Cyhoeddus - Buddsoddi i Arbed

 

Cronfeydd Datblygu Busnes

 

Benthyciad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

 

Cyflymu Cymru - Band Eang

 

Twnelau ar ffordd yr A55

 

Twnelau Bryn-glas

 

Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae

 

Metro

 

Deuoli'r A465

 

Prosiect Rheilffordd Gogledd Cymru

 

Gwelliannau i Orsaf Glynebwy

 

 

 

 

 

 

 

(16,500)

 

1,000

 

 

 

 

 

 

 

(42,500)

 

  (3,000)

 

(10,000)

 

(12,000)

 

(30,000)

 

(30,000)

 

(29,800)

 

(40,000)

 

(10,000)

 

  (2,000)

Cyllideb Sylfaenol 2015/16

392,866

261,996

 

 


                                                                                                            Atodiad B

Asesiad Effaith Integredig Strategol

 

Trosolwg

 

Mae cynllun gwariant 2016-17 yr Adran wedi’i baratoi gyda phersbectif tymor hir ac agwedd integredig at y penderfyniadau a wneir. Mae’r cynllun yn gwneud y cysylltiadau mewn meysydd gwasanaeth, yn enwedig trafnidiaeth i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae blaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru wedi’u hamlinellu yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae ein cynlluniau hefyd yn rhoi sylw priodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

 

Rydym yn datblygu ystod o weithgareddau a dargedir yn ofalus i gefnogi mynediad cynhwysol at swyddi a chyfleoedd fel bod unigolion yn gallu elwa ar dwf economaidd. Mae rhai o’n camau gweithredu i drechu tlodi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u hamlinellu yn natganiad Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar 23 Mehefin 2015, sydd ar gael yn:

 

http://llyw.cymru/about/cabinet/cabinetstatements/2015/tacklepoverty/?lang=cy

 

Datblygu cynaliadwy yw’r brif egwyddor drefniadol, gan wneud penderfyniadau sy’n ystyried yr amcanion a’r effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol. Wrth wneud hynny, rydym yn mabwysiadu dull i gynnwys ymgysylltu, integreiddio, buddsoddiad hirdymor ac atal yn ein polisïau a’n darpariaeth wrth alinio ein gweithgareddau i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i archwilio’r pontio i economi carbon isel, arloesol sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon fel ffordd o sicrhau ffyniant a thwf economaidd hirdymor. Nid yw’r dull hwn yn disodli datblygu cynaliadwy; yn hytrach, mae’n ei roi ar waith, gan helpu i gynnwys amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol yn ein ffordd o weithio.

Penderfyniadau Allweddol y Gyllideb

 

Sectorau – cynnydd o £46.891 miliwn

 

Yn 2014, roedd y sectorau blaenoriaeth yn gyfrifol am 44% o gyflogaeth yng Nghymru.[2] Yn ogystal â chynhyrchu incwm o reoli’r portffolio eiddo a dyrannu £18 miliwn i gronfeydd datblygu busnes, mae blaenoriaethau’n cael eu hadlinio i gynnal lefel y cymorth a lleihau effaith gostyngiadau llinell sylfaen.

 

Mae cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy yn rhan allweddol o’n dull o drechu tlodi. Mae’r dystiolaeth yn nodi’n glir mai gwaith sy’n talu’n dda yw’r ffordd orau allan o dlodi, a’r amddiffyniad gorau ar gyfer y rhai sy’n wynebu risg o dlodi. Gyda chymorth wedi’i flaenoriaethu ar gyfer amryw o sectorau allweddol, mae’r Adran hefyd yn gweithio gyda chwmnïau angori i gynyddu cyfleoedd ar gyfer swyddi a thwf trwy ei chadwyni cyflenwi. Mae’r dull cytbwys hwn yn ysgogi’r galw am weithwyr medrus, yn ogystal â chreu cyfleoedd i’r rhai sydd ymhellach o’r farchnad lafur.

 

Rydym yn cyflwyno ystod gydgysylltiedig o fesurau galw a chyflenwi er mwyn ysgogi gweithgarwch economaidd a swyddi, yn ogystal â chynyddu gallu cynhyrchiol hirdymor economi Cymru trwy fuddsoddiadau strategol mewn seilwaith, band eang cyflym iawn a darparu cymorth ar gyfer arloesi. Mae’r camau gweithredu hyn yn gwella’r gallu i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a rhai o’r amodau sy’n wynebu’r rhai sydd o dan anfantais oherwydd tlodi.

 

Yr her hefyd yw gwasgaru ffyniant, ac rydym wedi defnyddio dull gofodol mewn perthynas ag amryw o’n hymyriadau. Er enghraifft, mae cysylltedd yn rhan annatod o’n hymagwedd at ranbarthau dinesig. Mae’r dyraniad ychwanegol o £7 miliwn i gefnogi darpariaeth Ardaloedd Menter yn canolbwyntio ar ddatblygu ardaloedd sydd wedi’u cysylltu’n dda ac sydd â mwy o gyfleoedd. Er enghraifft, mae cynllun prentisiaeth a rennir yn cael ei ddatblygu ar gyfer Ardal Fenter Glynebwy, gyda’r Adran Addysg a Sgiliau, sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal.

 

Dynion yn bennaf (83%) sy’n gweithio yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (AM&M), felly bydd unrhyw gynnydd yn cael effaith anghymesur gadarnhaol ar y grŵp hwn. Fodd bynnag, mae’r sector yn darparu amryw o brosiectau allweddol i hyrwyddo cyflogaeth a datblygiad menywod, gan weithio’n agos gyda chwmnïau allweddol megis Airbus a Ford ar ddenu menywod i brentisiaethau. Yn 2014, roedd y sector yn cyflogi 9.9% o bobl anabl, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y sector AM&M yn y DU (9.4%) ond yn is na chyfartaledd cyflogaeth Cymru gyfan (12.4%). Yn ôl ffigurau 2014, roedd canran is o lawer o leiafrifoedd ethnig yn cael eu cyflogi gan y sector (1.9%) (o gymharu â’r cyfartaledd o 3.4%), sy’n gallu arwain at effaith negyddol ar y grwpiau gwarchodedig hynny[3].

 

Bydd cyllideb ychwanegol o £5.746 miliwn ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwarchodedig. Mae’r sector yn cyflogi 47,700 o bobl yng Nghymru, gyda chyfran uwch o ddynion (63%) na menywod (37%) ac, o’r rhain, mae 3.4% o bobl yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig. Mae cyfran y bobl anabl (12.6%) a gyflogir yn uwch na chyfartaledd y DU ar gyfer y sector (9.3%). Mae bron i 31% o’n bobl a gyflogir gan y sector yng Nghymru dros 50 oed[4]. Mae Diverse Cymru wedi’i benodi i ddarparu prosiect peilot i wella amrywiaeth y diwydiant Ffilm a Theledu yng Nghymru. Bydd yn helpu amcan strategol y sector i gryfhau cadwyn gyflenwi’r diwydiant Ffilm a Theledu yng Nghymru trwy annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno â chronfa ddata Sgrîn Cymru ac ehangu’r gronfa o dalent leol sydd ar gael i’r cynyrchiadau mawr rydym wedi’u denu i Gymru.

 

Trwy fuddsoddi £8.229 miliwn ychwanegol yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol (F&PS), mae yna bosibilrwydd y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bobl anabl gan fod lefel cyflogaeth y grŵp hwn (11.4%) yn uwch na lefel y DU (9.72%) yn y sector hwn. Yn 2014, roedd F&PS yn cyflogi 116,400 o bobl, gyda 52% yn ddynion a 48% yn fenywod. Mae’r sector yn creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth sy’n talu’n dda gan fod tua 53.2% mewn swydd reoli neu broffesiynol[5]. I hyrwyddo cyflogaeth ieuenctid, mae’r sector wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu’r Cynllun Gwasanaethau Ariannol i Raddedigion arloesol mewn partneriaeth â’r gymuned fusnes.

 

Mae’r sector Twristiaeth yn cefnogi tua 123,700 o swyddi, gyda fwy neu lai yr un faint o ddynion (48%) a menywod (52%) yn cael eu cyflogi[6]. Yn aml, dim ond cyfnodau byr o hyfforddiant sefydlu sydd eu hangen ar gyfer y swyddi hyn (Ffynhonnell: Dyfodol Gwaith 2010 -2020 – Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau). Mae’r sector hefyd yn cyflogi 34% o unigolion rhwng 16 a 24 oed o gymharu â 13% ar draws pob sector yng Nghymru, ac mae 22% o bobl dros 50 oed yn cael eu cyflogi o gymharu â 32% ar draws pob sector yng Nghymru.

Mae asesiad o effaith y Strategaeth Dwristiaeth, “Partneriaeth ar gyfer Twf”, ar gydraddoldeb wedi’i gynnal. Mae’r sector twristiaeth yn cyflogi 5.6% o bobl â nodwedd lleiafrifoedd ethnig, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru (3.4%). Mae’r sector twristiaeth hefyd yn cyflogi cyfran uwch o bobl anabl (13.6%) yng Nghymru o gymharu â sector Twristiaeth y DU (10.5%). Mae yna ostyngiad o £1.684 miliwn mewn refeniw yn y gyllideb Twristiaeth a Marchnata. Bydd dyraniad manwl cyllidebau yn ystyried yr effaith mae newidiadau yn debygol o’i chael ar y grwpiau gwarchodedig hyn. I gefnogi datblygiad polisi, os yn bosibl, bydd data cydraddoldeb yn cael ei gasglu ar ymatebwyr i ymgyrchoedd marchnata a’r defnydd cysylltiedig o gymorth Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn helpu’r Adran i ddeall yr hyn sy’n rhwystro grwpiau gwarchodedig rhag ymateb a derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae Twristiaeth a Marchnata yn gwneud cyfraniad allweddol at gynnal cymunedau Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol. Mae’r Gymraeg yn rhan graidd o’r adnodd ar-lein 'Naws am Le'. Un o egwyddorion cyffredinol Croeso Cymru yw bod twristiaeth yn cael ei rheoli’n gynaliadwy i ddiogelu ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae amddiffyn a gwella rhinweddau arbennig ein tirweddau dynodedig yn allweddol i’r sector twristiaeth yng Nghymru er mwyn cyflawni twf cynaliadwy a chyfrannu at economi sy’n addas i’r dyfodol.

 


 

Entrepreneuriaeth – gostyngiad o £6.089 miliwn

 

Mae’r rhaglenni newydd a ariennir gan Ewrop wedi’u hailbroffilio ac wedi cynyddu cyfraddau ymyrryd. Felly, nid oes unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar grwpiau gwarchodedig gan nad oes yna effaith ar ddarpariaeth. Mae’r gyllideb yn cynnal gweithgareddau i drechu tlodi, megis mentora a chyngor Busnes Un Stop, fel y gall unigolion gychwyn a datblygu eu busnes. Yn 2014-15, cafodd tua 4,505 o swyddi eu creu a 997 eu diogelu. Mae pob gwasanaeth yn gwbl ddwyieithog ac mae yna fwy o alw am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2015, bu cynnydd o 39% yn nifer yr ymweliadau â’r wefan Gymraeg busnes.cymru.gov.uk, a bu cynnydd o 11% yn yr amser a dreuliwyd ar y wefan Gymraeg o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 

Mae’r gwasanaeth cychwyn busnes yn monitro demograffeg ei ddefnyddwyr ac yn dadansoddi’r wybodaeth i dargedu’r cymorth mewn ardaloedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r arlwy cymorth busnes yn cynnwys gweithredu i hyrwyddo arferion busnes cyfrifol, megis busnesau yn cyflwyno trefniadau gweithio hyblyg, sy’n gallu helpu unigolion sydd angen mwy o oriau hyblyg neu ddulliau gweithio, yn enwedig y rhai â chyfrifoldebau gofalu, i gynyddu eu horiau ac ennill mwy o arian. Yn ogystal, mae camau’n cael eu cymryd i ddatblygu’r farchnad gofal plant ac i gefnogi argaeledd llefydd gofal plant i rieni sydd am weithio neu gael mynediad at addysg a chyfleoedd hyfforddi.

 

Mae cyllid wedi’i ddyrannu i gefnogi mentrau cymdeithasol, gan gydnabod y cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud at gryfhau cydlyniant cymdeithasol. Mae’r sefydliadau wedi helpu mentrau a darparwyr gofal plant i helpu teuluoedd ac unig rieni i gyfrannu at y farchnad lafur a chynhyrchu cyfoeth lleol mewn cymunedau sydd ar y cyrion. Mae creu cyfleoedd cyflogaeth lleol yn cefnogi cymunedau lleol ac yn cynnal y boblogaeth o grwpiau sy’n siarad Cymraeg.

 

Mae’r rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn darparu amrywiaeth o opsiynau i feithrin pobl ifanc hunangynhaliol. Mae hefyd yn mynd i’r afael â lefelau uchel o ddiweithdra ieuenctid a lefelau uwch o dlodi ac allgáu cymdeithasol mewn cymunedau difreintiedig. Ledled Cymru, mae yna rwydwaith cryf o 377 o entrepreneuriaid yn cyfrannu fel Modelau Rôl gydag ymgyrch Syniadau Mawr Cymru i ysgogi ac ysbrydoli ein pobl ifanc. Yn 2014, mi wnaethon nhw gyfarfod â thros 55,000 o bobl ifanc. Mae gan y rhwydwaith Modelau Rôl 27% o siaradwyr Cymraeg i’w helpu i ddarparu gweithdai i ysgolion a cholegau.

 

Arloesedd a Gwyddoniaeth – cynnydd o £3.130 miliwn

 

Mae cyllid ychwanegol o £3.130 miliwn wedi’i ddarparu i raglenni Arloesedd a Gwyddoniaeth a ddarperir dros y cyfnod rhwng 2015/16 a 2021/22 er mwyn sicrhau manteision hirdymor. Mae’r rhaglenni Ewropeaidd SMART Expertise a SMART Cymru yn hwyluso cydweithredu rhwng y byd academaidd a’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac yn helpu mentrau Cymru i fasnacheiddio, tyfu a chreu cyfleoedd gwaith o safon uchel.

 

Mae cyfalaf ychwanegol yn helpu’r Compound Semiconductor Foundation i greu clwstwr o led-ddargludyddion yn y De. Mae’r dechnoleg alluogi yn amrywio o gynhyrchion iechyd a thechnoleg ddiwifr i gymwysiadau trafnidiaeth. Cafodd yr Athro Diana Huffaker, sy’n arbenigwr yn y maes, ei phenodi’n Gadeirydd mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch trwy raglen Sêr Cymru. Mae gwella capasiti yn gallu cyfrannu at economi sy’n addas i’r dyfodol trwy wella ffyniant ac iechyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mae’r rhaglenni Sêr Cymru a Sêr Cymru II wedi bod yn destun asesiad o’u heffaith ar gydraddoldeb. Mae cynrychiolaeth y rhywiau yn dal i fod yn broblem fawr yn y gweithlu gwyddonol, gan mai dim ond 17% o’r athrawon STEM yn y DU sy’n fenywod, er gwaethaf mentrau i wella amrywiaeth. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth ac yn ymwneud â’r canfyddiadau o bynciau STEM yn yr ysgol, strwythur gyrfaoedd academaidd, mynychder contractau tymor byr yn y gweithlu AU ac anawsterau o ran cydbwyso gwaith ymchwil sydd, yn aml, yn gofyn am oriau hir ac anghymdeithasol ac yn amharu ar fywyd teuluol[7]. Mae llinyn Ailafael mewn Talent Ymchwil Sêr Cymru II yn cefnogi ymchwilwyr, menywod yn aml, sy’n cymryd seibiant gyrfa ar gyfer gofal plant. I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae prifysgolion Cymru yn cymryd rhan mewn cynlluniau megis Athena SWAN, Buddsoddwyr mewn Pobl a Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall i annog amrywiaeth yn y gweithlu ymchwil.

 

Mae’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn darparu gweithgareddau a digwyddiadau allgymorth a grantiau cystadleuol i’w dyfarnu yn 2016/17 ac yn cefnogi prosiectau sy’n annog plant difreintiedig a merched i ddewis pynciau STEM, ac sy’n targedu plant 10-14 oed. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael ar gyfer pynciau STEM trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r ystadegau canlynol ar y Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch:

 

http://cymru.gov.uk/statistics-and-research/welsh-higher-education-institutions/?lang=cy

 

Mae gwerth economaidd buddsoddiad cyhoeddus mewn gwyddoniaeth ac ymchwil yn arwyddocaol. Mae trosoledd arian cyfatebol y sector preifat yn cynyddu’r syniadau newydd a’r wybodaeth a gynhyrchir gan wyddoniaeth a ariennir yn gyhoeddus. Mae’n rhan annatod o ddarpariaeth strategaeth y sector o ran denu mewnfuddsoddiad a thyfu cwmnïau brodorol.

 

Cysylltedd

 

Mae trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at wella cystadleurwydd economaidd Cymru o ran darparu mynediad at swyddi, cysylltu pobl â gwasanaethau a chreu cymunedau cydlynol. Mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol (y Cynllun) yn amlinellu ein blaenoriaethau trafnidiaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a thu hwnt, a manylion sut a phryd y bydd gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth a rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu darparu i helpu busnesau i ffynnu a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy a bodlon.

 

Mae’r Cynllun wedi bod yn destun asesiad o’i effaith, gyda manylion ar gael yn:

 

http://llyw.cymru/topics/transport/planning-strategies/ntp/?lang=cy

 

Mae’r cynlluniau yn y Cynllun yn targedu pum maes blaenoriaeth allweddol: twf economaidd, trechu tlodi, teithio cynaliadwy a diogelwch a gwella mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau. Bu cynrychiolwyr o grwpiau cydraddoldeb ac unigolion â nodweddion gwarchodedig yn cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun a’r ymgynghori ar y Cynllun hwnnw. Un o brif amcanion y Ddeddf yw gwella ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau mynediad i bawb a chysylltu cymunedau â swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae penderfyniadau trafnidiaeth wedi’u gwneud gyda’r bwriad o liniaru’r effeithiau negyddol ar grwpiau gwarchodedig â pharhad gwasanaethau a pharhau i fod yn ymatebol i anghenion cymunedau lleol. Mae mentrau i gefnogi a gwella trafnidiaeth bws a chymunedol yn rhan bwysig o’r Cynllun. Er enghraifft, bydd safonau ansawdd newydd cenedlaethol bysiau yn ceisio gwella ansawdd y gwasanaethau bws a darparu gwell cysylltiadau cyflogaeth a mynediad at welliannau i ddefnyddwyr, gan gynnwys grwpiau difreintiedig. Bydd elfennau allweddol o’r Cynllun yn cael eu darparu mewn partneriaeth â sectorau allweddol, yn enwedig Addysg, Iechyd, Tai a Thlodi, i sicrhau dull cydgysylltiedig.

 

Cymorth Bysiau a Threnau – Y gyllideb wedi’i hamddiffyn

 

Mae argaeledd opsiynau trafnidiaeth fforddiadwy yn rhag-amod hanfodol ar gyfer pobl sy’n dilyn llwybrau allan o dlodi trwy gyflogaeth, hyfforddiant neu addysg. Mae’n rhan allweddol o gynhwysiant cymdeithasol ehangach. Mae’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau wedi’i gadw ar £25 miliwn am dair blynedd i alluogi awdurdodau lleol i gymorthdalu gwasanaethau trafnidiaeth bws a chymunedol sy’n gymdeithasol angenrheidiol. Mae arolygon teithio yn cadarnhau bod gwasanaethau bws yn arbennig o bwysig i bobl ifanc, pobl hŷn a’r rhai â nodweddion gwarchodedig.

 

Os nad oes yna weithredwr masnachol, rydym wedi sicrhau bod gwasanaethau strategol megis y rhwydwaith bws TrawsCymru pellter hir yn darparu mynediad i ganolfannau cyflogaeth ac addysg allweddol ledled Cymru. Mae hyn yn cysylltu pobl mewn cymunedau nad oes ganddynt fynediad at gerbydau preifat ac yn llenwi’r bylchau sy’n bodoli yn rhwydwaith y seilwaith rheilffyrdd. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn unigryw yn y DU ac, am y tro cyntaf, mae’n gweithredu i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar wella’r seilwaith cerdded a beicio, sy’n cynnig opsiwn trafnidiaeth di-gost a charbon isel ar gyfer teithiau bob dydd. Er enghraifft, darparodd Cynllun yr A465 4.1 cilometr o lwybrau beicio newydd oddi ar y ffordd, gan gynnwys croesi Dyffryn Carno.

 

Mae’r cynllun teithio ar fysiau am ddim yn cynnig tocynnau am ddim i deithio ar wasanaethau bws lleol a rhai trenau ledled Cymru ar gyfer pobl hŷn neu anabl a milwyr neu gyn-filwyr ag anafiadau difrifol. Mae’n galluogi tua 750,000 o bobl hŷn ac anabl i deithio heb orfod poeni am y gost. Mae amddiffyn y gyllideb yn cael effaith gadarnhaol, gyda manteision iechyd a gofal cymdeithasol anuniongyrchol o ganlyniad i deithio ar fws sy’n hyrwyddo mwy o weithgarwch corfforol a mwy o ryngweithio cymdeithasol, sy’n gallu gohirio dementia ac afiechydon cysylltiedig eraill.

 

Mae gwasanaethau rheilffordd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau bod gan bobl a busnesau system drafnidiaeth sy’n diwallu eu hanghenion ac yn bodloni ein hamcanion cenedlaethol. Bydd amddiffyn y gyllideb ar gyfer 2016-17 yn diogelu gwasanaethau rheilffordd presennol, gan gynnwys amryw o wasanaethau ychwanegol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ers i’r cyfrifoldeb dros reoli masnachfraint Cymru a’r Gororau gael ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru yn 2006.

 

Mae gwasanaethau rheilffordd yn darparu cysylltedd pwysig. Mae penderfyniadau a wnaed yn 2015 i gynnal ac, mewn rhai achosion, i wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn cydnabod y manteision cymunedol cymdeithasol ac economaidd a gefnogir gan y seilwaith rheilffyrdd, yn enwedig ar gyfer twristiaeth a chydlyniant cymunedol. Felly, mae cyllideb 2016/17 (£184.079 miliwn) wedi’i chynnal ar gyfer gwasanaethau rheilffordd. Mae cyllid y gwasanaethau rheilffordd yn ymwneud yn bennaf â’r cyllid ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau a ddyfarnwyd yn 2003. Mae yna ofynion o safbwynt yr iaith Gymraeg o fewn y fasnachfraint sy’n cynnwys gofynion i ddarparu gwasanaeth ffôn Cymraeg i gwsmeriaid, yn ogystal â sicrhau bod yr holl arwyddion, amserlenni a deunydd cyhoeddusrwydd a gwybodaeth arall i deithwyr yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg.                                              

 

Ym mis Mai 2015, cafodd gwelliannau eu rhoi ar waith ar linellau Cambrian a Chalon Cymru. Yn ogystal, yn ystod 2015, penderfynwyd ymestyn y cynllun teithio ar drenau am ddim a’r Gwasanaeth Cyflym rhwng y Gogledd a’r De. Mae manteision buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y seilwaith rheilffyrdd yn cael eu tanlinellu gan y twf yn niferoedd teithwyr, a oedd yn fwy na 30 miliwn ar fasnachfraint Cymru a’r Gororau yn 2014-15. Yn ogystal, cofnododd gweithredwr masnachfraint Cymru a’r Gororau, Trenau Arriva Cymru, ei lefel uchaf o foddhad teithwyr yn y National Rail Passenger Survey (NRPS) yn 2015, gyda lefel boddhad cyffredinol o 89% yn arolwg y gwanwyn.

 

Mae amddiffyn cyllidebau teithio bws a thrên yn cael effaith gadarnhaol o ran pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig hefyd. Mae 4 y cant o boblogaeth Cymru yn perthyn i ethnigrwydd nad yw’n wyn, gyda chrynodiadau uwch mewn ardaloedd trefol, yn enwedig Awdurdod Lleol Caerdydd lle y mae 11 y cant o’i boblogaeth yn bobl nad ydynt yn wyn. Mae data Arolwg Teithio Cenedlaethol 2011 yn dangos bod oedolion o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fyw mewn aelwyd heb ddefnydd o gar, o gymharu ag oedolyn Prydeinig gwyn. Mae tua 60% o weithgarwch teithwyr ar Fasnachfraint Cymru a’r Gororau yn canolbwyntio ar Reilffyrdd y Cymoedd ac ardal Caerdydd.

 

Yn ôl Arolwg Teithwyr Bws Cymru 2010, roedd 93% o ddefnyddwyr bysiau yn nodi eu bod yn wyn, roedd 5% o gefndir ethnig arall a gwrthododd 2% ateb. Mewn cymhariaeth, mae tua 4% o bobl Cymru yn perthyn i grŵp lleiafrifoedd ethnig.

 

Mae’r cynlluniau hyn yn lleihau baich costau teithio llawer o aelwydydd mewn angen, gan gynnwys y rhai â phlant. Mae tystiolaeth ar gyfer y DU[8] yn awgrymu bod rhwystrau trafnidiaeth yn fwy dwys ymhlith y rhai heb lawer o sgiliau a’r rhai mewn swyddi sy’n talu cyflog isel ac yn cael effaith anghymesur ar bobl ifanc sy’n fwy dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Ers 1 Medi 2015, mae cynllun FyNgherdynTeithio Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnig tocynnau am draean o’u pris arferol i bobl ifanc 16, 17 ac 18 oed sy’n byw yng Nghymru ar gyfer pob taith fws leol a TrawsCymru. Ariennir y cynllun gan £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn 2015-16 a £9.75 miliwn yn 2016-17. Mae bron i 3,500 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae hyn yn cefnogi Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i helpu plant a theuluoedd.

 

Buddsoddiad hirdymor

 

Mae gan fuddsoddiadau hirdymor strategol mewn seilwaith y potensial i ddarparu newid sylweddol i Gymru. Mae ein buddsoddiad yn ein rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae trafnidiaeth yn ei wneud at gefnogi twf a swyddi, yn ogystal â galluogi pobl o grwpiau gwarchodedig i gael mynediad at wasanaethau. Bydd yr ymagwedd hon at benderfyniadau buddsoddi yn datblygu gallu economaidd hirdymor. Bydd hefyd yn gwella’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi sydd ar gael trwy gymalau cymdeithasol mewn contractau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl mewn cymunedau lleol yn gallu elwa’n uniongyrchol ar ein buddsoddiadau cyfalaf sylweddol. Trwy fentrau busnes, mae ystod o gwmnïau a phrosiectau wedi’u cefnogi sy’n cyfrannu at y pontio i economi ar gyfer y dyfodol a chyflawni twf gwyrdd. Rhoddir pwyslais arbennig ar geisio darparu cyfleoedd i’r rhai mewn aelwydydd di-waith. Un enghraifft yw cynllun Adran 2 yr A465, lle mae’r Contractwr wedi ymgysylltu â llysgenhadon i hyrwyddo cyfleoedd adeiladu mewn ysgolion lleol. Hyd yma, maent wedi rhyngweithio â thros 2,000 o fyfyrwyr yn ardaloedd Blaenau Gwent a Gorllewin Trefynwy. Felly, mae ein buddsoddiad cyfalaf yn parhau i gefnogi manteision cymunedol ehangach.

 

Gwelliant Parhaus

 

Mae’r Adran wedi ymrwymo i wella ansawdd y dull asesu effaith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae camau gweithredu penodol yn cynnwys:

 

1.    Bydd hyrwyddwyr adrannol yn gweithio gyda meysydd busnes i helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella ansawdd gwybodaeth a chymorth ar gyfer y themâu trawsbynciol.

 

2.    Mae yna gyfleoedd mawr i wella’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn y fasnachfraint rheilffyrdd, felly bydd hyn yn cael ei ymgorffori yn y fanyleb.

 

3.    Parhau i ymgysylltu ag unigolion â nodweddion gwarchodedig ac ymestyn yr ymchwil er mwyn deall yr effeithiau’n well.   

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad C

YR ECONOMI, GWYDDONIAETH A THRAFNIDIAETH

Dyraniadau Cyllidebol 2016/17

 

Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Sylfaenol £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Sectorau a Busnes

Sectorau a Busnes

Sectorau’r Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol

4029

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl

 

1,203

1,560

3765

TGCh

6,886

6,446

 

 

 

3764

Gwyddorau Bywyd

2,319

2,896

 

 

 

3763

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

190

145

 

 

 

3762

Diwydiannau Creadigol

1,154

851

 

 

 

3761

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

3,779

4,018

 

 

 

3760

Ynni a'r Amgylchedd

1,567

1,400

 

 

 

6250

Twristiaeth a Marchnata

11,946

10,262

 

 

 

3752

Adeiladu

451

514

 

 

 

3753

Datblygiadau Arfaethedig

3,688

1,700

 

 

 

3754

Masnach a Mewnfuddsoddi

2,116

1,892

 

 

 

3755

Ardaloedd Menter

3,505

927

 

 

 

4051

Ymgysylltu Rhanbarthol

91

263

 

 

 

37,692

31,314

 

 

 

 

 

 

Entrepreneuriaeth

3893

Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru

10,320

4,231

 

 

 

10,320

4,231

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

 

49,215

37,105


 

 

Arloesi a Gwyddoniaeth

 

Arloesi

3744

Canolfannau Arloesi a Chyfleusterau Ymchwil a Datblygu

 

2,185

2,553

 

 

3746

Cydweithredu rhwng y Byd Academaidd a Busnesau

 

841

1,646

 

 

 

3742

Arloesi ar gyfer Busnes

1,351

1,520

 

 

 

4,377

5,719

 

 

Gwyddoniaeth

3745

Gwyddoniaeth

5,569

4,795

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

 

9,946

10,514

 

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

 

59,161

47,619

 

 


 

Strwythur Adrannol

 

CYFALAF

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Sylfaenol £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Sectorau a Busnes

Sectorau a Busnes

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol

4029

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl

10,325

4,450

 

 

Sectorau

3765

TGCh

1,053

1,865

 

 

 

3764

Gwyddorau Bywyd

855

6,855

 

 

 

3763

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

1,065

9,339

 

 

 

3762

Diwydiannau Creadigol

1,049

7,098

 

 

 

3761

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

7,900

15,495

 

 

 

3760

Ynni a'r Amgylchedd

2,584

3,571

 

 

 

3752

Adeiladu

755

1,897

 

 

 

3753

Datblygiadau Arfaethedig

9,287

19,835

 

 

 

3755

Ardaloedd Menter

9,000

3,122

 

 

 

3758

Cronfeydd Busnes Cymru

0

18,000

 

 

 

4051

Ymgysylltu Rhanbarthol

260

0

 

 

 

6250

Twristiaeth a Marchnata

2,000

2,000

 

 

 

35,808

89,077

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

 

46,133

93,527

 

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Arloesi

3746

Cydweithredu rhwng y Byd Academaidd a Busnesau

 

500

3,062

 

 

500

3,062

 

 

Gwyddoniaeth

3745

Gwyddoniaeth

 

2,479

2,479

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

 

2,979

5,541

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

49,112

99,068

 


 


Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb

Sylfaenol

 £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Seilwaith

Seilwaith

Seilwaith TGCh

3822

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

 

5,444

4,740

 

 

3860

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

2,842

2,051

 

 

 

 

8,286

6,791

 

 

 

3860

Seilwaith TGCh Anariannol

 

1,309

1,309

 

 

Seilwaith Eiddo

4052

Tir ac Adeiladau - Gwariant

 

10,076

4,026

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

19,671

12,126

Strwythur Adrannol

 

CYFALAF

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb

Sylfaenol

£'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Seilwaith

Seilwaith

Seilwaith TGCh

3860

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

16,304

16,304

 

 

 

 

 

 

16,304

16,304

 

 

 

 

 

 

 

Seilwaith Eiddo

4052

Tir ac Adeiladau - Gwariant

2,152

(15,815)

 

 

 

2,152

(15,815)

 

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

 

18,456

489

 


 

Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb

 2015/16

£'000

Cyllideb Ddrafft £'000

 

 

 

 

 

 

Digwyddiadau Mawr

Digwyddiadau Mawr

4231

Marchnata a Digwyddiadau Mawr

3,918

3,918

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

3,918

3,918

 


 

Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Sylfaenol £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

 

 

 

 

 

Tîm Gweithrediadau'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a Strategaeth

Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

Rhaglenni Corfforaethol

3899

Her Iechyd Cymru

949

800

4028

Y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol

 

 

 

1,666

1,655

 

4023

Rhaglenni a Gwasanaethau Corfforaethol

418

1,111

 

 

 

3,033

3,566

 

 

Rhaglenni Strategaeth

3891

Dadansoddi Economaidd

158

158

 

 

 

3897

Ymgysylltu Strategol

293

293

 

 

 

4230

Cyfathrebu a Marchnata

100

100

 

Marchnata

551

551

 

Cyllid Cymru

Cyllid Cymru

4024

Cyllid Cymru

2,400

2,160

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

 

5,984

6,277

 

 

Strwythur Adrannol

 

CYFALAF

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb 

Sylfaenol

£'000

Cyllideb Ddrafft £'000

 Tîm Gweithrediadau'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a Strategaeth

 

 

4028

Y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol

79

90

 

 

79

90

 

 

 

 

 

Cyfanswm ar gyfer y Maes Rhaglenni Gwariant

 

 

79

90


 


Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb 

Sylfaenol

£'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Trafnidiaeth

Gweithrediadau Rhwydwaith Traffordd a Chefnffyrdd

 

Gweithrediadau Traffordd a Chefnffyrdd

1885

Gweithrediadau Rhwydwaith

53,264

47,264

 

1884

Rheoli a Chefnogi Asedau Rhwydwaith

4,525

4,525

 

57,789

51,789

 

Gwella a Chynnal a Chadw'r Rhwydwaith Cefnffyrdd (Llwybrau Domestig) - Anariannol

1886

Rheoli a Chefnogi Asedau Rhwydwaith

 

 

108,691

 

 

108,691

 

 

108,691

108,691

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

 Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

1890

Masnachfraint Rheilffyrdd

 

184,079

184,079

 

 

1883

Gwasanaethau Awyr

1,600

1,600

 

 

185,679

185,679

 

 

 

 

 

 

Teithio Cynaliadwy

 Teithio Cynaliadwy

2030

Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Seiclo

500

500

 

 

1880

Cymorth i Fysiau a Thrafnidiaeth Leol

28,448

28,448

 

 

 

2000

Tocynnau Teithio Rhatach

21,261

22,359

 

 

 

1881

Cardiau Clyfar

2,000

2,000

 

 

 

 

 

 

52,209

53,307

 Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc

2001

Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc

 

5,000

 

9,750

 

 

 

 

 

 

57,209

63,057

 

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd 

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

1892

Diogelwch ar y Ffyrdd

 

4,764

 

4,764

 

 

 

4,764

4,764

 

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

 

414,132

413,980


 

Strwythur Adrannol

 

CYFALAF

2015/16

2016/17

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Sylfaenol £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Trafnidiaeth

Gweithrediadau Rhwydwaith Traffordd a Chefnffyrdd

Gweithrediadau Traffordd a Chefnffyrdd

1885

Gweithrediadau Rhwydwaith

 

 

 

50,550

 

 

 

70,600

 

 

50,550

70,600

 

 

 

 

 

 

Buddsoddi mewn Ffyrdd a Rheilffyrdd

Cynlluniau Ffyrdd a rheilffyrdd

1889

Adeiladau Ffyrdd Newydd ac Astudiaethau Gwella

 

1,900

 

1,900

 

 

 

1888

Adeiladau Ffyrdd Newydd a Gwella Ffyrdd

48,785

76,219

 

 

 

1891

Buddsoddi mewn Rheilffyrdd

5,100

5,100

 

 

55,785

83,219

 

 

 

 

 

 

Teithio Cynaliadwy

 Teithio Cynaliadwy

2030

Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Seiclo

 

6,650

 

6,650

 

 

 

2000

Tocynnau Teithio Rhatach

39,297

39,297

 

 

 

1881

Cardiau Clyfar

600

600

 

 

 

1882

Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol

20,900

20,900

 

 

67,447

67,447

 

 

 

Gwella a chynnal a chadw'r Seilwaith Ffyrdd Lleol

Cyllid Cyfalaf Cyffredinol - Ffyrdd 

2040

Y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol - Ffyrdd

 

 

 

13,667

 

 

 

13,667

 

 

 

13,667

13,667

 

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd 

 Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

1892

Diogelwch ar y Ffyrdd

 

6,900

 

6,900

 

 

6,900

6,900

 

Cyfanswm ar gyfer y Grŵp

 

 

 

194,349

241,833


Atodiad Ch

 

YR ECONOMI, GWYDDONIAETH A THRAFNIDIAETH

Ymarfer Mapio Gwariant y Rhaglen Lywodraethu

 

Cam Gweithredu'r Gyllideb

 2016-17 £'000

Is-ganlyniad

Pennod

Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol

6,010

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Sectorau

120,391

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Cefnogi gwelliant parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Cymru sy'n fwy cyfartal

Lleihau troseddau ac ofn troseddau

Cymunedau Diogelach i Bawb

Cymru o gymunedau cydlynus

Economi wledig ffyniannus

Cymunedau gwledig

Cymru lewyrchus

Cymru o gymunedau cydlynus

Creu economi carbon isel gynaliadwy

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru gydnerth

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Ehangu mynediad i'n diwylliant, treftadaeth a chwaraeon ac annog mwy o gyfranogiad

Diwylliant a Threftadaeth Cymru

Cymru â diwylliant bywiog

Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes

4,231

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Arloesi

8,781

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwyddoniaeth

7,274

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwella Addysg Bellach ac Addysg Uwch

Addysg

Cymru sy'n fwy cyfartal

Digwyddiadau Mawr

3,918

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Ehangu mynediad i'n diwylliant, treftadaeth a chwaraeon ac annog mwy o gyfranogiad

Diwylliant a Threftadaeth Cymru

Cymru â diwylliant bywiog

Darparu Seilwaith sy'n Ymwneud ag Eiddo

(11,789)

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Darparu Seilwaith TGCh

23,095

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Cefnogi gwelliant parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Cymru sy'n fwy cyfartal

Sicrhau bod gan gymunedau gwledig fynediad at fand eang cyflymach a gwasanaethau digidol newydd

Cymunedau Gwledig

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru â diwylliant bywiog

Darparu Seilwaith TGCh - Anariannol

1,309

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Cefnogi gwelliant parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Cymru sy'n fwy cyfartal

Sicrhau bod gan gymunedau gwledig fynediad at fand eang cyflymach a gwasanaethau digidol newydd

Cymunedau Gwledig

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cyllid Cymru

2,160

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Rhaglenni Strategaeth

551

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Mynd i'r afael â diweithdra a chynyddu incwm aelwydydd

Trechu Tlodi

Cymru sy'n fwy cyfartal

Byw o fewn terfynau amgylcheddol a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cymru gydnerth

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Rhaglenni Corfforaethol

3,656

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Atal salwch a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Gofal Iechyd yn yr 21ain Ganrif

Cymru iachach

Gweithrediadau Traffordd a Chefnffyrdd

122,389

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwella a Chynnal a Chadw'r Rhwydwaith Cefnffyrdd Anariannol

108,691

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

185,679

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Lleihau troseddau ac ofn troseddau

Cymunedau Diogelach i Bawb

Cymru o gymunedau cydlynus

Teithio Cynaliadwy

120,754

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwella diogelwch mewn cymunedau

Cymunedau Diogelach i Bawb

Cymru o gymunedau cydlynus

Mynd i'r afael â diweithdra a chynyddu incwm aelwydydd

Trechu Tlodi

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus

Gwella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymunedau gwledig

Cymunedau Gwledig

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus

Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn byw bywydau bodlon

Cefnogi Pobl

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru iachach

Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc

9,750

Mynd i'r afael â diweithdra a chynyddu incwm aelwydydd

Trechu Tlodi

Cymru lewyrchus

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus

Cefnogi'r economi a busnes

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

11,664

Gwella diogelwch mewn cymunedau

Cymunedau Diogelach i Bawb

Cymru o gymunedau cydlynus

Buddsoddi mewn Ffyrdd a Rheilffyrdd

83,219

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

Gwella diogelwch mewn cymunedau

Cymunedau Diogelach i Bawb

Cymru o gymunedau cydlynus

Cyllid Cyfalaf Cyffredinol - Ffyrdd

13,667

Gwella ein seilwaith

Twf a Swyddi Cynaliadwy

Cymru lewyrchus

CYFANSWM

825,400

 


 



[1] Cyfeiriad 5.1 (c)

[2] Ystadegau Sector Blaenoriaeth 2015 - www.gov.wales/statistics

 

[3] Ystadegau Sector Blaenoriaeth 2015 - www.gov.wales/statistics

[4] Ystadegau Sector Blaenoriaeth 2015 - www.gov.wales/statistics

[5] Ystadegau Sector Blaenoriaeth 2015 - www.gov.wales/statistics

[6] Ystadegau Sector Blaenoriaeth 2015 - www.gov.wales/statistics

 

[7] Adroddiad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin: “Women in scientific careers” -  2014

[8] Poverty and Ethnicity – Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2013